Dylai galwadau ambiwlans ar gyfer achosion o strôc gael eu hystyried yn rhai brys, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Mewn dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Hydref 26), bydd y blaid yn galw am adolygu’r system gategoreiddio ar gyfer galwadau ambiwlansys.

Ers 2015, mae galwadau strôc yn cael eu hystyried yn rhai ‘oren’ yn hytrach na ‘choch’, a does dim targedau amser ar gyfer eu cyrraedd.

Fis diwethaf, cymerodd hi dros awr i ambiwlans gyrraedd 64% o achosion ‘oren’ yng Nghymru. 19% gyrhaeddodd o fewn hanner awr.

‘Rhoi pobol mewn perygl’

“Er bod pobol yng Nghymru’n profi’r rhestrau aros, yr amseroedd aros am ambiwlans, a’r amseroedd aros mewn adrannau brys gwaethaf ym Mhrydain, mae’r rhai sy’n dioddef strôc wedi cael eu gadael mewn trafferth ers saith mlynedd gan nad ydyn nhw wedi cael eu blaenoriaethu gan y gwasanaeth ambiwlans,” meddai Mark Isherwood, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, fydd yn arwain y ddadl ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

“Does dim o hyd yn fai ar dechnegwyr ambiwlansys na pharafeddygon medrus, gweithgar, ond yn hytrach, mae’r bai ar Lywodraeth Lafur sy’n penderfynu y bysa ganddyn nhw well siawns o gyrraedd eu targedau pe na bai strôc yn cael ei ystyried fel cyflwr digon difrifol i gael ei gynnwys fel galwad coch.

“Ni ellir parhau â’r sefyllfa hon, a dyna pam ein bod ni eisiau i’r Senedd gydnabod bod y siawns o oroesi a gwella ar ôl strôc yn cael ei danseilio wrth gadw strôc fel galwad oren.

“Gyda phob diwrnod sy’n mynd heibio cyn gwneud hyn, mae rhywun arall sy’n cael strôc yn cael ei roi mewn perygl, a thra ein bod ni angen i Lafur gael gafael ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar ôl gadael staff a chleifion lawr cyhyd, mae hyn yn rhywbeth y gellir ei wneud yn gynt a chynnig sicrwydd i bawb nawr.”