David TC Davies, Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy, yw Ysgrifennydd Cymru.

Mae’n olynu Syr Robert Buckland, sydd wedi ymddiswyddo ar ôl i Rishi Sunak ddod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Fe fu David TC Davies yn Is-Weinidog yn Swyddfa Cymru ers 2019, ac fe gefnogodd e Sunak yn y ras arweinyddol yn erbyn Liz Truss, oedd wedi ymddiswyddo ar ôl chwe wythnos yn y swydd.

Mae Simon Hart, cyn-Ysgrifennydd Cymru ac Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, wedi’i benodi’n Brif Chwip.

Croesawu’r penodiad

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi croesawu’r penodiad.

“Mae’r Prif Weinidog wedi egluro bod angen i ni roi anghenion pobol uwchlaw gwleidyddiaeth, ac wedi gweithredu’n benderfynol i benodi Cabinet o dalent ar draws ein plaid,” meddai.

“Dw i’n arbennig o falch o weld David TC Davies yn dychwelyd i Swyddfa Cymru, bellach yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Bydd David yn amhrisiadwy wrth sicrhau bod Cymru wrth galon Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn enwedig wrth dynnu ar ei brofiad fel Aelod Cynulliad cyn dod yn Aelod Seneddol.

“Dw i’n gwybod y bydd e’n parhau i fod yn bencampwr gwych ar gyfer ein gwlad nawr o amgylch bwrdd y Cabinet.

“Mae David wedi bod yn ffrind da i nifer ohonom, gan gynnwys fi ar hyd y blynyddoedd.

“Dw i’n edrych ymlaen at barhau â’r berthynas gref a phositif rhwng Grŵp y Senedd, y Blaid a Swyddfa Cymru er mwyn gweithredu dros Gymru gyda’n gilydd.”

 

Ysgrifennydd Cymru: Simon Hart a Syr Robert Buckland ‘wedi’u gweld ger swyddfa Rishi Sunak’

Gallai Ysgrifennydd Cymru gael ei ddiswyddo, tra bod ei ragflaenydd yn disgwyl cael ei benodi i swydd arall

Syr Robert Buckland wedi ymddiswyddo

Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru’n dweud y bydd e’n cefnogi Rishi Sunak o’r meinciau cefn