Mae Syr Robert Buckland, Ysgrifennydd Cymru, wedi ymddiswyddo gan ddweud y bydd e’n parhau i gefnogi Rishi Sunak, Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig, o’r meinciau cefn.

Does neb erioed wedi para llai o amser yn y swydd.

Roedd cryn ddyfalu ynghylch dyfodol y gwleidydd sy’n enedigol o Lanelli, ar ôl iddo gael ei weld ger swyddfa’r Prif Weinidog – mae bod ymhlith y cyntaf i gyrraedd fel arfer yn arwydd na fydd y person hwnnw’n aros yn ei swydd.

Cafodd ei benodi gan Boris Johnson ym mis Gorffennaf eleni, ac fe arhosodd yn ei swydd pan ddaeth Liz Truss i rym.

Ond ar ôl ei chefnogi hi yn y ras arweinyddol, roedd hi’n annhebygol y byddai’n aros yn y swydd wrth i Sunak, ei gwrthwynebydd yn y ras honno, ei holynu.

Yn ei lythyr, dywed Syr Robert Buckland mai ei benderfyniad e yw ymddiswyddo, ac y bu’n “fraint enfawr” gwasanaethu pedwar prif weinidog dros gyfnod o saith mlynedd a hanner.

Ymhlith ei gyflawniadau pennaf, meddai, roedd ei waith ar yr agenda Codi’r Gwastad, lansio proses geisiadau’r porthladdoedd rhydd a pharhau â’r gwaith ym maes y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Dywed ymhellach y bu’n “anrhydedd oes” cael bod yn rhan o’r digwyddiadau adeg marwolaeth Elizabeth II, Brenhines Lloegr, yn gynharach eleni ac wrth i’w mab, Charles III, ddod i’r orsedd.

“Dw i wedi bod yn falch erioed o fod yn Unoliaethwr, yn falch o fod yn Gymro ac yn falch o wasanaethu Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Dw i’n credu’n gryf ein bod ni’n un teulu ac yn un genedl sy’n rhannu gwerthoedd, a’n bod ni’n gryfach gyda’n gilydd, a dyna pam fy mod i’n falch unwaith eto o wasanaethu yn y Cabinet.”

Wrth gyfeirio at ei gyfnod yn Ysgrifennydd Cyfiawnder, dywed ei fod yn falch o’i waith wrth ddiwygio cyfreithiau dedfrydu, cyfreithiau ysgaru, gwella’r gefnogaeth i ddioddefwyr treisio a throseddau rhyw difrifol, diwygio’r Gwasanaeth Prawf a goruchwylio’r rhaglen o adeiladu carchardai a rheoli carchardai yn ystod Covid-19.

Dywed y bydd yn parhau i gynrychioli etholwyr yn Ne Swindon, ac i weithio ym maes awtistiaeth a chyflogaeth, gan ddweud y byddai’n hoffi arwain ymchwiliad yn y maes.

Mae Simon Hart, cyn-Ysgrifennydd Cymru, wedi’i benodi’n Brif Chwip y Blaid Geidwadol, tra bod adroddiadau na fydd Stephen Crabb, cyn-Ysgrifennydd Cymru arall, yn derbyn y swydd.

Ysgrifennydd Cymru: Simon Hart a Syr Robert Buckland ‘wedi’u gweld ger swyddfa Rishi Sunak’

Gallai Ysgrifennydd Cymru gael ei ddiswyddo, tra bod ei ragflaenydd yn disgwyl cael ei benodi i swydd arall