Mae Elin Jones, Llywydd y Senedd, wedi brolio safon cyfieithwyr y Senedd yn dilyn ymddiheuriad gan Aelod o’r Senedd am siarad yn rhy gyflym.
Roedd Delyth Jewell o Blaid Cymru’n siarad Cymraeg yn ystod trafodaeth ar ddatgarboneiddio heddiw (dydd Mawrth, Hydref 25).
“Sori os oedd hwnna bach yn gyflym ar gyfer y cyfieithwyr,” meddai’r Aelod Senedd dros Ddwyrain De Cymru wrth orffen ei chwestiwn.
“Does dim angen ymddiheuro i’r cyfieithwyr,” meddai’r Llywydd wrth ymyrryd cyn i Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd ddechrau ateb.
“Maen nhw mwy na digon abl i gyfieithu popeth sy’n cael ei ddweud yn y Siambr yma.”
Cyn ateb y cwestiwn, dywedodd Julie James ei bod hi’n “ddiolchgar iawn” i’r cyfieithwyr.
“Dw i, yn un peth, yn ddiolchgar iawn iddyn nhw, Llywydd, gan nad yw fy Nghymraeg yn ddigon da i drafod ynni adnewyddadwy yn fanwl ar hyn o bryd, er cymaint dw i’n difaru nad yw hi.”