Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datblygwr ynni adnewyddadwy sy’n eiddo cyhoeddus er mwyn ymateb i ansicrwydd ynni, costau byw a’r argyfwng hinsawdd.

Bydd yr elw o ynni sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru yn sicrhau mwy o fudd i bobol yng Nghymru, meddai Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru.

Yn ôl Julie James, bydd arian dros ben sy’n cael ei gynhyrchu drwy’r datblygwr newydd yn mynd yn ôl i’r pwrs cyhoeddus.

Bydd yn cael ei ail-fuddsoddi er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi yng Nghymru a chreu swyddi ynni glân o ansawdd da sydd wedi’u datblygu yn y wlad.

Fe fydd y datblygwr ynni newydd yn ehangu’r broses o gyflwyno ynni adnewyddadwy, yn y lle cyntaf drwy ddatblygu prosiectau gwynt ar y tir ar ystâd coetir Llywodraeth Cymru.

‘Buddsoddiad cynaliadwy’

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i “gynaeafu ein gwynt a’i ddefnyddio i gynhyrchu pŵer sydd o fudd uniongyrchol i bobol yng Nghymru”, yn ôl Julie James.

“Byddwn yn sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy sy’n eiddo cyhoeddus,” meddai.

“Mae hwn yn fuddsoddiad cynaliadwy hirdymor sy’n rhoi sero net a chymunedau Cymru wrth wraidd y cyfnod pontio sydd ei angen arnom.

“Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd ac mae ein dull gweithredu yn hollol groes i ddull Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n canolbwyntio ar ffracio a thanwyddau ffosil – sy’n cael eu gwrthwynebu gan y mwyafrif o gymunedau ac sy’n anghydnaws â’n rhwymedigaethau rhyngwladol.”

‘Moment hanesyddol’

Wrth i gostau byw barhau i gynyddu yn sgil y diffyg sicrwydd ynghylch cyflenwadau ynni, dywed Julie James fod y farchnad bresennol yn y Deyrnas Unedig yn “wael i dalwyr biliau”.

“Mae hon yn foment hanesyddol i Gymru,” meddai.

“Mae’r argyfwng costau byw yn uniongyrchol gysylltiedig â’r cynnydd mawr yng nghost ynni, sy’n cryfhau’r angen am ddull gweithredu sy’n sicrhau mwy o fudd i bobl Cymru.

“Os yw gwledydd eraill yn gynsail o gwbl, yna dylem ddisgwyl elw sylweddol o’n buddsoddiad ac – wrth inni rannu uchelgeisiau’r cenhedloedd eraill hyn – mae gennym gyfle gwirioneddol i gynhyrchu incwm a fydd wir yn ein helpu i gyflawni yma.

“Rydym yn cymryd camau cadarnhaol i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau sero net mewn ffyrdd sydd o fudd i’n cymunedau.”