Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud ei fod yn “barod am etholiad yfory” pe bai un yn cael ei alw.
Y gŵr sydd wedi cynrychioli Ynys Môn ym Mae Caerdydd sydd wedi cael ei ddewis gan Blaid Cymru i herio’r sedd yn San Steffan y tro nesaf.
Daw hyn wrth i’r holl wrthbleidiau alw am etholiad cyffredinol, gan fynnu nad oes gan y Prif Weinidog newydd Rishi Sunak fandad i lywodraethu.
Fodd bynnag, mae Rhun ap Iorwerth hefyd yn derbyn y “gallai hi fod yn gwpwl o flynyddoedd eto” nes bydd etholiad yn cael ei alw.
“Efo llaw ar fy nghalon, rydan ni’n barod am etholiad yfory,” meddai wrth golwg360.
“Rydan ni’n hollol, hollol barod am etholiad tasa fo’n cael ei alw yfory nesa’, a’r ffordd mae gwleidyddiaeth yn mynd y dyddiau yma mi alla fo gael ei alw yfory nesa’.
“Rydan ni hefyd yn gwybod y gallai hi fod yn gwpwl o flynyddoedd eto, ddylai hi ddim achos yn ddemocrataidd mi ddylai’r Prif Weinidog newydd alw am etholiad cyffredinol.
“Ar hyn o bryd, does yna ddim ond dau ymgeisydd ar Ynys Môn. Mae pobol yn fy adnabod i ers talwm, fe fyddan nhw wedi cael blas ar bwy ydi ymgeisydd y Ceidwadwyr a does yna neb arall.
“Ein gwaith ni rŵan ydi mynd â’r neges yn glir i Ynys Môn fy mod i’n barod i gynrychioli pawb ar yr ynys a bod yn barod pryd bynnag y bydd yna etholiad yn dod.
“Fe ges i fy ethol yn ôl yn 2013 fel rhywun dw i’n meddwl oedd pobol yn adnabod a dw i wedi cael naw mlynedd erbyn hyn i adeiladu perthynas efo pobol Ynys Môn.
“Dw i wedi mwynhau’r cyfnod yna, mae rhywun yn dod i gynrychioli a gweithredu ar ran miloedd o bobol yn y cyfnod yna a beth fydda i’n ceisio ei wneud ydi ennill ymddiriaeth fwy fyth rhwng rŵan a’r etholiad cyffredinol ac ennill cefnogaeth pobol yn seiliedig ar fy ngwaith i.
“Fe all pleidiau eraill, os ydyn nhw’n penderfynu, drio prynu pleidleisiau drwy ddod ag arian mawr o’r tu allan ac yn y blaen.
“Ond fe fydda i’n canolbwyntio ar fy ymgyrch i ac ar beth sydd gan Blaid Cymru i’w gynnig.”
‘Gwarchod buddiannau dy gymuned a dy wlad’
Mae Plaid Cymru wedi bod yn feirniadol iawn o’r math o wleidyddiaeth sydd ar waith yn San Steffan, tra’n canu clodydd eu cytundeb cydweithio gyda Llafur ym Mae Caerdydd.
Ffrwyth llafur math mwy “aeddfed” ac “adeiladol” o wleidydda yw hyn, yn ôl Cefin Campbell, un o’r aelodau dynodedig sy’n cynrychioli Plaid Cymru yn y cytundeb.
Yr wythnos ddiwethaf, fe alwodd Liz Saville Roberts, arweinydd y Blaid yn San Steffan, y lle’n “syrcas” o dan arweiniad y Ceidwadwyr, felly pam fod Rhun ap Iorwerth yn awyddus i adael Bae Caerdydd ar gyfer Llundain?
“Dydy o’n sicr ddim oherwydd fy mod i eisiau gadael Senedd Cymru, sy’n Senedd fodern gyda ffordd o weithio sy’n ffitio i’r ganrif yma ac nid y ganrif ddiwethaf,” meddai.
“Ond yn syml iawn, mi ddaeth hi’n reit amlwg i mi dros y misoedd diwethaf bod yn rhaid i mi wneud.
“Os ydi rhywun yn credu go iawn fod llywodraeth yn gweithredu yn groes i fuddiannau dy gymuned a dy wlad, ac mae’r Llywodraeth yn San Steffan yn gwneud mewn cymaint o ffyrdd, y mae hi’n ddyletswydd arnat ti mewn gwleidyddiaeth i geisio sefyll yn erbyn hynny a gwneud rhywbeth am y peth.
“Os wyt ti ar yr un pryd yn credu bod rhaid i ti, er mwyn gwthio gweledigaeth a gwarchod buddiannau dy gymuned a dy wlad, ddefnyddio pob platfform er mwyn gwneud hynny, wel mae’n amlwg fod Tŷ’r Cyffredin yn blatfform sydd yn allweddol ar hyn o bryd.
“Yn enwedig pan wyt ti’n ei roi o yng nghyd-destun y ddadl fawr am ddyfodol yr Undeb a beth fydd yn digwydd yn y blynyddoedd nesaf yma gyda dyfodol Iwerddon, annibyniaeth i’r Alban, lle mae Tŷ’r Cyffredin yn mynd i fod yn llwyfan lle fydd yna gymaint o sylw arno fo.
“Mae’n rhaid i ni feddiannu’r platfform yna, ac os nad wyt ti’n barod i feddiannu’r platfform yna ac i wneud beth sydd ei angen i feddiannu’r platfform yna, mi wyt ti i bob pwrpas yn dweud wrth dy wrthwynebwyr gwleidyddol: ‘Cymrwch chi’r platfform yna’.
“Alla i ddim gwneud hynny.
“Mae hwn, fel dw i’n dweud, yn rywbeth oedd mewn ffordd ddim wedi’i gynllunio ond yn rywbeth mae’n rhaid ei wneud.”