Ar drothwy cynhadledd flynyddol Plaid Cymru, mae un o’i Haelodau o’r Senedd wedi mynnu wrth Golwg eu bod yn llwyddo i ddylanwadu ar bolisi’r llywodraeth ar un llaw, tra yn dal Mark Drakeford a’i griw i gyfrif ar y llaw arall.

Yn ôl Cefin Campbell mae’r Blaid yn awyddus i gael ei gweld fel plaid “gyfrifol ac adeiladol” pan mae’n dylunio polisi, ond yn un “heriol” pan nad yw hi’n cytuno â’r Llywodraeth.