Mae merch un o hoelion wyth y byd sioeau cerdd Cymraeg wedi sefydlu ysgol berfformio yn ei enw, i “barhau â’i weledigaeth”…

Mae cwmni theatr newydd i blant a phobol ifanc wedi cael ei sefydlu yn y Bala – Cwmni Theatr Derek Williams.

Sefydlydd y cwmni yw Branwen Haf Williams, merch y diweddar Derek Williams, yr athro a’r arweinydd theatr dylanwadol a fu farw yn 2014. Roedd yn un o’r triawd a fu’n arwain Cwmni Theatr Maldwyn am ddegawdau yn y canolbarth.