Mae hi’n ymddangos bod gan Brif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig “ddealltwriaeth dda” o effaith polisïau’r llywodraeth ar y farchnad a’r economi, yn ôl economegydd o Gymru.

Y gobaith yw y bydd hynny o help i Rishi Sunak, cyn-Ganghellor llywodraeth Boris Johnson, wrth iddo lunio polisïau, meddai Dr Edward Jones o Brifysgol Bangor wrth golwg360.

Hyd yn hyn, mae’r marchnadoedd “i weld yn hapus efo’r hyn mae o’n ei ddweud”, ond mae’r heriau economaidd yn parhau, meddai’r economegydd.

Costau byw yw’r her fawr, ac yn ei araith gyntaf yn Brif Weinidog heddiw (dydd Mawrth, Hydref 25), fe wnaeth Rishi Sunak bwysleisio bod gaeaf anodd o flaen y Deyrnas Unedig.

“Dw i ddim yn siŵr faint fedrith y Prif Weinidog ei wneud i ddylanwadu ar [gostau byw], oherwydd mae llawer ohono fo’n dibynnu ar be’ sy’n digwydd yn Wcráin,” meddai Dr Edward Jones wrth golwg360.

“Wrth gwrs, mae yna rai agweddau eraill lle bydd y Prif Weinidog yn gallu dylanwadu.

“Mae hi am fod yn gyfnod anodd, a dw i’n meddwl bod o wedi pwysleisio hynny heddiw yn trio paratoi pobol yn ei araith bod yna gyfnod anodd o’n blaenau ni.

“Yn anffodus, fyswn i’n cytuno efo hynny.

“Y rhagolygon ydy ein bod ni’n gobeithio y bydd y cyfnod anodd yma’n dod i ben yn 2024, efallai ar yr ochr orau, diwedd 2023.”

Cangellorion yn cydweithio

Mi fydd hi’n ddiddorol gweld sut berthynas fydd yn datblygu rhwng y Canghellor diweddaraf Jeremy Hunt – sy’n debygol o gadw ei rôl – a Rishi Sunak, y cyn-Ganghellor, yn ôl Dr Edward Jones.

“Yn sicr, mi fydd y profiad sydd gan Rishi yn ei helpu fo,” meddai.

“Fydd o’n gwybod am y ffigurau, dw i’n meddwl bod o reit glir ynglŷn â phwysigrwydd y farchnad.

“Os ydyn ni’n meddwl yn ôl at y gystadleuaeth rhyngddo ef a Liz Truss, daeth llawer o’r rhagolygon wnaeth Rishi Sunak ynghylch polisïau Liz Truss yn wir.

“Felly dw i’n meddwl bod ganddo fo ddealltwriaeth dda o’r effaith mae polisïau llywodraeth yn gallu’i gael ar yr economi ac ar y farchnad, ac mi fydd hynny o help iddo fo.”

Y gyllideb

Mae disgwyl i’r Canghellor lunio ei gynllun cyllidol tymor canolig ddydd Llun (Hydref 31), a’r prif beth mae Dr Edward Jones, a’r marchnadoedd, yn chwilio amdano yw cynllun er mwyn dod â dyledion y wlad dan reolaeth.

Er mwyn gwneud hynny, mi fydd hi’n anodd osgoi toriadau i wasanaethau cyhoeddus, meddai.

“Os ydyn ni’n edrych yn ôl i’r mini-budget yna, mi wnaeth y farchnad ymateb reit negyddol oherwydd doedd yna ddim cynllun clir ar sut i ddod â’r ddyled lawr.

“Felly dyna dw i’n disgwyl gweld yn y budget diwedd y mis yma – bod yna gynllun clir ar sut i ddod â dyled y wlad lawr.

“Yn anffodus, be’ mae hynny’n olygu ydy’i bod yn debyg fod yna doriadau yn y gwasanaethau cyhoeddus.

“Dw i ddim yn rhy siŵr be’ wnân nhw efo trethi. Ydyn nhw’n debyg o godi trethi? Mae hi’n anodd dweud.

“Fyswn i’n tybio fysa nhw ddim eisiau gwneud dim byd rhy exciting! Fyddan nhw’n trio cadw hi’n gyllideb go boring, ond bod y plan yna ar sut i ddod â’r ddyled.

“Efo dod â dyledion y wlad lawr, dim ond dwy ffordd sydd yna i wneud hynny, sef gwario llai a chodi mwy o drethi.

“Bydd rhaid i’r llywodraeth wneud cymysgedd o’r ddau wrth symud ymlaen.

“Pryd fyddan nhw’n gwneud hynny? Dw i ddim yn rhy siŵr.

“Ond yn sicr, does y deuddeg mis nesaf, mi fyddan ni’n gweld y ddau yna’n digwydd.”

‘Cywiro camgymeriadau Truss’

Yn ei araith, dywedodd Rishi Sunak fod y Deyrnas Unedig yn wynebu “argyfwng economaidd difrifol”, a’i fod yn benderfynol o gywiro “camgymeriadau” Liz Truss.

“Doedd hi ddim yn anghywir wrth fod eisiau gwella twf yn y wlad hon, mae’n nod da ac roeddwn i’n edmygu ei hawydd i greu newid,” meddai Rishi Sunak am Liz Truss.

“Ond cafodd camgymeriadau eu gwneud. Nid oherwydd ewyllys drwg, ond oherwydd y gwrthwyneb.

“Ond camgymeriadau [oedden nhw], fodd bynnag.

“A dw i wedi cael fy ethol yn arweinydd y Blaid Geidwadol a’ch Prif Weinidog chi yn rhannol er mwyn cywiro’r camgymeriadau, ac mae’r gwaith hwnnw’n dechrau ar unwaith.”

Mae disgwyl i Rishi Sunak gyhoeddi ei gabinet newydd maes o law.

Hyd yn hyn, mae’r Ysgrifennydd Busnes Jacob Rees-Mogg a’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Brandon Lewis wedi ymddiswyddo.

Ysgrifennydd Cymru: Simon Hart a Syr Robert Buckland ‘wedi’u gweld ger swyddfa Rishi Sunak’

Gallai Ysgrifennydd Cymru gael ei ddiswyddo, tra bod ei ragflaenydd yn disgwyl cael ei benodi i swydd arall