Wrth i Rishi Sunak, Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig, baratoi i gyhoeddi ei Gabinet, mae dau ymgeisydd posib ar gyfer y swydd wedi’u gweld ger ei swyddfa.

Serch hynny, ôl adroddiadau, gallai Syr Robert Buckland gael ei ddiswyddo, wythnosau’n unig ar ôl cael ei ailbenodi gan Liz Truss.

Cafodd ei benodi i’r swydd am y tro cyntaf fis Gorffennaf eleni, tra bod Boris Johnson yn dal wrth y llyw.

Roedd y gwleidydd a gafodd ei eni yn Llanelli wedi cefnogi Rishi Sunak ar ddechrau’r ymgyrch arweinyddol ddiwethaf, cyn rhoi ei gefnogaeth i Liz Truss.

Wrth symud ei gefnogaeth o’r naill i’r llall, dywedodd fod “y byd wedi symud yn ei flaen” ers y ras ddiwethaf.

Un enw posib i’w olynu yw Simon Hart, ond y gred yw y gallai Aelod Seneddol Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro gael ei benodi’n Brif Chwip.

Yr aelodau seneddol Cymreig eraill yw Sarah Atherton (Wrecsam), Simon Baynes (De Clwyd), Alun Cairns (Bro Morgannwg), Stephen Crabb (Preseli Penfro), Virginia Crosbie (Ynys Môn), David TC Davies (Mynwy), James Davies (Dyffryn Clwyd), David Jones (Gorllewin Clwyd) a Fay Jones (Brycheiniog a Maesyfed).