Dydy Cyngor Abertawe ddim yn bwriadu cyflwyno ardoll ymwelwyr ddadleuol, yn ôl eu harweinydd.

Dywed y Cynghorydd Rob Stewart na fyddai ardoll yn cael ei hystyried oni bai bod cefnogaeth leol gref.

Mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar gynllun fyddai’n rhoi’r hawl i gynghorau gyflwyno ardoll y maen nhw’n dweud y byddai’n helpu i ariannu cyfleusterau i ymwelwyr a gwelliannau i dwristiaeth.

Mae nifer o grwpiau twristiaeth yn gwrthwynebu’r ardoll y mae gweinidigion yn rhagweld y bydd yn gost fach ychwanegol fydd yn berthnasol i aros dros nos mewn llety masnachol i ymwelwyr.

Mae ardoll o’r fath mewn grym mewn nifer o ddinasoedd a gwledydd ym mhob cwr o’r byd.

Gwario llai – a’r gwahaniaeth rhwng ymweld neu beidio

Dywed Tom Beynon, perchennog Parc Gwyliau’r Tri Chlogwyn ym Mhenrhyn Gŵyr, fod yr argyfwng costau byw yn arwain at bobol yn gwario llai o arian ar wyliau, ac y gallai ardoll olygu’r gwahaniaeth rhwng teulu’n dewis Cymru yn lle rhywle fel Dyfnaint.

“Mae jyst yn ymddangos fel ffolineb i fi,” meddai.

“Pe bai’n bolisi ledled y Deyrnas Unedig, byddai’n wahanol.”

Dywed fod sector twristiaeth Cymru wedi cymryd camau breision dros y blynyddoedd diwethaf, ac y dylid gwneud ymdrech i barhau â hyn.

“Dw i’n credu bod Cymru wir yn symud i’r cyfeiriad cywir,” meddai.

“Mae mwy o bobol yn dod yma bob blwyddyn – mae hynny’n arwain at arian ychwanegol yn dod i ardaloedd, ac mae busnesau twristiaeth yn ei ailfuddsoddi.”

Dywed ei fod e wedi gwario arian ar flociau toiledau wedi’u gwresogi a phodiau glampio, a bod y safle gwersylla a’r parc carafanau wedi cyflogi 15 aelod o staff llawn amser ar amseroedd brig.

“Mae’r pum mlynedd diwethaf yn enwedig wedi bod yn brysur iawn, iawn,” meddai.

“Rydyn ni’n bositif am y dyfodol.”

Mae’n dweud y byddai unrhyw ardoll yn achosi pryder.

“Mae’r rhan fwyaf yn rhannu’r un farn â fi ym Mhenrhyn Gŵyr,” meddai.

Mae hefyd yn cwestiynu a fyddai unrhyw arian gaiff ei godi fel rhan o’r cynllun yn cael ei warchod ar gyfer gwelliannau i ymwelwyr, o ystyried y pwysau ariannol difrifol ar gynghorau.

Ymgynghoriad a deddfwriaeth

Pe bai’n cael ei chymeradwyo yn y dyfodol gan y Senedd, byddai angen deddfwriaeth newydd ar gyfer unrhyw ardoll ymwelwyr.

Daw’r ymgynghoriad i ben ar Ragfyr 13, ac mae’n cael ei gynnal fel rhan o Gytundeb Cydweithio Llafur a Phlaid Cymru.

“Ein bwriad gyda’r ardoll yw creu ymdeimlad o rannu cyfrifoldeb rhwng trigolion ac ymwelwyr, i warchod a buddsoddi yn ein hardaloedd lleol,” meddai Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru.

“Drwy ofyn i ymwelwyr – p’un a ydyn nhw wedi teithio oddi fewn i Gymru neu o’r tu hwnt – i wneud cyfraniad bach tuag at gynnal a chadw a gwella’r lle maen nhw’n ymweld ag e, byddwn ni’n annog dull mwy cynaliadwy o dwristiaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart wrth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol mai safbwynt Cyngor Abertawe yw nad oes ganddyn nhw unrhyw fwriad o gyflwyno ardoll.

“Fydden ni ddim ond yn ystyried ei chyflwyno pe bai cefnogaeth leol sylweddol,” meddai wrth ymateb i bryderon Tom Beynon.

“A byddai unrhyw arian fyddai’n cael ei godi’n sicr yn cael ei warchod a’i ddefnyddio ar flaenoriaethau twristiaeth leol.”