Mae “arbrawf hurt” Liz Truss wedi gwneud “difrod parhaol i’r economi”, yn ôl Liz Saville Roberts, wrth i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig roi ei haraith olaf yn y rôl.

Bydd Rishi Sunak, arweinydd newydd y Ceidwadwyr, yn gwneud ei araith gyntaf ers dod yn Brif Weinidog yn ddiweddarach heddiw (dydd Mawrth, Hydref 25).

Mewn araith fer tu allan i Downing Street, dywedodd Liz Truss fod ei llywodraeth wedi ymateb yn “sydyn ac yn bendant” er mwyn helpu teuluoedd.

Ond yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, bydd cyfnod Liz Truss wrth y llyw yn teimlo fel “breuddwyd ryfedd” i Aelodau Seneddol Ceidwadol sydd “mewn panig”.

“Ond mae ei harbrawf hurt wedi gwneud difrod parhaol i’w economi,” meddai.

“A bydd Rishi Sunak yn gwneud yn siŵr mai pobol gyffredin sy’n talu gyda mwy o doriadau poenus.”

‘Sunak yn wahanol’

Wrth i Rishi Sunak ddod yn Brif Weinidog, mae Alun Davies, Aelod Llafur o’r Senedd dros Flaenau Gwent, wedi rhybuddio y dylai’r Blaid Lafur gymryd Sunak “o ddifrif”.

“Rydyn ni wedi cael dau Brif Weinidog da i ddim sydd wedi llusgo’n gwleidyddiaeth ni i’r gwter,” meddai.

“Dw i’n meddwl y bydd Sunak yn wahanol iawn.

“Mae’n ffigwr difrifol fydd yn gwneud nifer o benderfyniadau fyddwn ni’n eu casáu ond a fydd yn rhan o weledigaeth economaidd a chymdeithasol a fydd yn trio dominyddu’r drafodaeth wleidyddol – yn yr un ffordd ag y gwnaethom ni golli’r ddadl dros gyni.

“Bydd rhaid i Lafur gynnig dewis arall radical yn hytrach na bod yn fersiwn wannach o’r weledigaeth Dorïaidd.

“Dw i hefyd yn meddwl y bydd Sunak yn ymgynnull llywodraeth o weinidogion call yn hytrach na’r oriel o glowniaid rydyn ni wedi arfer eu gweld.

“Dw i’n rhannu gweledigaeth Prif Weinidog Cymru fod yn rhaid i berthnasau o fewn y Deyrnas Unedig fod yn flaenoriaeth.”

‘Manteisio ar ryddid Brexit’

“Mewn cyfnod byr, mae’r llywodraeth hon wedi ymateb yn sydyn ac yn bendant o blaid teuluoedd a busnesau sy’n gweithio’n galed,” meddai Liz Truss yn ei haraith, gan nodi y bu’n fraint cael arwain y Deyrnas Unedig.

“Fe wnaethon ni ddadwneud y cynnydd mewn yswiriant gwladol, fe wnaethon ni helpu miliynau o aelwydydd gyda’u biliau ynni, a helpu miloedd o fusnesau i osgoi mynd i’r wal.

“Rydyn ni’n cymryd ein hannibyniaeth ynni’n ôl, a fyddwn ni byth eto ar drugaredd newidiadau yn y farchnad ryngwladol na phwerau niweidiol o dramor.

“Drwy fy amser fel Prif Weinidog, dw i’n fwy sicr nag erioed fod angen i ni fod yn bendant a wynebu’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu.

“Rydyn ni angen manteisio ar y rhyddid sydd wedi dod yn sgil Brexit i wneud pethau’n wahanol.

“Mae hyn yn golygu rhoi mwy o ryddid i’n dinasyddion ac adfer grym i’n sefydliadau democrataidd.

“Mae’n golygu trethi is fel bod pobol yn gallu cadw mwy o’r arian maen nhw’n ei ennill.

“Ac mae’n golygu creu twf a fydd yn arwain at well diogelwch swyddi, cyflogau uwch a mwy o gyfleoedd i’n plant a’n wyrion a’n hwyresau.”

Yn ogystal ag addo parhau i gefnogi Wcráin, a dymuno’n dda i Rishi Sunak, gorffennodd Liz Truss ei haraith drwy ddweud y “byddwn ni’n parhau i ymladd drwy’r storm, ond dw i’n credu ym Mhrydain, a dw i’n credu ym mhobol Prydain a dw i’n gwybod fod dyddiau gwell o’n blaenau.”