Mae Cymru’n wynebu cyfnod newydd o doriadau cyni dinistriol gan fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “camreoli’r economi”, yn ôl Ysgrifennydd Cyllid Cymru.

Yn sgil chwyddiant a “chamreolaeth” Llywodraeth San Steffan, mae cyllideb Llywodraeth Cymru bellach werth hyd at £4bn yn llai mewn termau real nag yr oedd pan gafodd y setliad ariannu ei bennu y llynedd, medd Llywodraeth Cymru.

Mae Jeremy Hunt, y Canghellor diweddaraf, wedi bygwth gwneud toriadau gwariant a allai amddifadu gwasanaethau cyhoeddus rhag cyllid, rhwystro twf economaidd ac arwain at golli swyddi.

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg yn nes ymlaen heddiw (dydd Mawrth, Hydref 25), bydd yr Ysgrifennydd Cyllid Rebecca Evans yn crybwyll opsiynau y gallai’r Canghellor eu cymryd i hybu twf a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r Canghellor wedi dweud bod rhaid i bob adran o Lywodraeth y Deyrnas Unedig gynyddu eu hymdrechion i wneud arbedion, a rhybuddiodd y bydd rhai meysydd gwariant yn cael eu cwtogi i lenwi’r twll gafodd ei greu yng nghyllideb gyhoeddus y Deyrnas Unedig o ganlyniad i’r gyllideb fechan fis yn ôl.

Wrth iddi baratoi ei Chyllideb ddrafft ei hun, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar Ragfyr 13, mae Rebecca Evans yn rhybuddio y gallai hyn olygu mwy o doriadau yng nghyllid Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i Jeremy Hunt lunio ei gynllun cyllidol tymor canolig ddydd Llun (Hydref 31).

Toriadau treth “byrbwyll”

Drwy gyhoeddi toriadau treth “byrbwyll, heb eu costio, ar gyfer y cyfoethog”, collodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig reolaeth ar yr economi, yn ôl Rebecca Evans.

“Nawr, mae’r Canghellor newydd eisiau i ni gyd dalu am fethiannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyda thoriadau gwariant sylweddol,” meddai.

“Rydyn ni’n wynebu cyfnod dinistriol newydd o fesurau cyni – mesurau a fyddai’n bygwth swyddi, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus.

“Gallai’r Canghellor ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus drwy ddefnyddio ei ysgogiadau treth mewn ffordd decach a chynyddu buddsoddiad er mwyn sicrhau bod yr economi’n symud i’r cyfeiriad cywir.

“Gallai helpu pobol i dalu eu biliau drwy gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant.

“Wrth inni edrych ymlaen at ein Cyllideb, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd camau i osgoi’r math o gyni dinistriol a fydd yn gwneud mwy o ddifrod eto i’n heconomi a’r gwasanaethau cyhoeddus y mae cymaint ohonon ni’n dibynnu arnyn nhw.”