Mae Cyngor Ewrop wedi cyhoeddi adroddiad sy’n amddiffyn yr hawl i geisio annibyniaeth mewn modd “heddychlon” fel mynegiant o ryddid barn.
Mae gwrthwynebu newidiadau strwythurol neu gyfansoddiadol mewn modd democrataidd yn dderbyniol, yn ôl yr adroddiad gan Marija Pejčinović Burić, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Ewrop.
Mae’r adroddiad yn dweud na ddylid cadw gwleidyddion yn y ddalfa am wneud hyn, oni bai bod eu geiriau’n debygol o arwain at drais.
Dydy’r adroddiad ddim yn sôn am ymgyrchoedd tros annibyniaeth fel y cyfryw, fel sydd wedi’u trefnu gan YesCymru yng Nghymru neu’r gorymdeithiau yng Nghatalwnia, ond mae’n cyfeirio at adroddiad arall sy’n beirniadu’r ffordd mae Sbaen wedi ymdrin â threfnwyr ymgyrch annibyniaeth Catalwnia wrth garcharu arweinwyr alltud.
Mae’r adroddiad wedi’i lunio ar sail barn nifer o grwpiau sy’n rhan o Gyngor Ewrop, gan gynnwys y Cynulliad Seneddol, Comisiwn Fenis, Comisiwn Ewrop yn erbyn Hiliaeth ac Anoddefgarwch, a’r Grŵp Gwladwriaethau yn erbyn Llygredd.
Mae hefyd yn seiliedig ar ddatrysiad gan Gynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, sy’n cydnabod fod arweinwyr ymgyrch annibyniaeth Catalwnia’n “garcharorion gwleidyddol”, ac mae pwysau ar Sbaen i newid eu Cod Cosbi, yn enwedig o ran gwrthryfela ac annog gwrthryfel.
Mae’r ddogfen hefyd yn cydnabod nad oedd yr ymgyrch yn ystod refferendwm annibyniaeth 2017 yng Nghatalwnia’n dreisgar, ac yn cynnig gobaith i’r rheiny oedd wedi cymryd rhan ac wedi arwain yr ymgyrch ac sydd wedi mynd â’u hachos at Lys Hawliau Dynol Ewrop.
Mae arweinwyr gafodd eu carcharu am eu rhan yn yr ymgyrch wedi cyhuddo Sbaen o dorri eu hawliau dynol yn fwriadol drwy wrthod yr hawl iddyn nhw gael rhyddid barn.