Mae hi’n dal yn bwysig osgoi gwastraffu dŵr ar ôl y cyfnodau sych dros yr haf, yn ôl Dŵr Cymru.

Daw’r neges wrth iddyn nhw gadarnhau eu bod nhw’n codi’r gwaharddiad ar bibellau dyfrio sydd wedi bod mewn grym ers mis Awst ar gyfer cwsmeriaid yn Sir Benfro.

Bydd y gwaharddiad ar gwsmeriaid sy’n cael eu gwasanaethu gan Gronfa Dŵr Llys-y-frân ger Hwlffordd yn codi ar unwaith (dydd Mawrth, Hydref 25).

Ond dylai pobol barhau i osgoi gwastraffu dŵr er mwyn rhoi’r cyfle gorau posib i’w 91 cronfa ddŵr adlenwi’n llwyr dros fisoedd y gaeaf, meddai Dŵr Cymru.

Er bod glaw’n disgyn nawr, ac yn helpu rhai cronfeydd fel Llys-y-frân, dydy’r glaw ddim yn ddigon trwm nac yn para’n ddigon hir i gael effaith sylweddol ar lefelau’r holl gronfeydd.

Mae hyn yn arbennig o wir am y cronfeydd yn y de-ddwyrain lle mae’r lefelau mewn rhai cronfeydd yn parhau i ddisgyn.

‘Dim lle i laesu dwylo’

“Rydyn ni’n falch ein bod ni’n gallu codi’r gwaharddiad ar ddefnyddio pibellau dŵr ar gyfer ein cwsmeriaid sy’n cael eu gwasanaethu gan gronfa ddŵr Llys-y-frân, ac am ddiolch o waelod calon iddynt am eu cydweithrediad llwyr, a fu o gymorth mawr wrth sicrhau bod modd cadw’r dŵr yn llifo i’n cwsmeriaid yno trwy gydol yr haf, ac amddiffyn afonydd allweddol yn Sir Benfro,” meddai Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Cymru.

“Rydyn ni’n ysgrifennu at ein cwsmeriaid yn yr ardal hefyd i gadarnhau fod y gwaharddiad wedi codi.

“Er bod hyn yn newyddion da, nid oes unrhyw le i ni laesu dwylo. Mae ein cronfeydd dŵr yn dibynnu ar law i adlenwi dros yr hydref a’r gaeaf.

“Dros y chwe mis diwethaf, mae Cymru wedi gweld un o’r cyfnodau hiraf o dywydd sych ar gofnod, ac ym mis Medi gwelsom cwta 50% o’r glawiad cyfartalog tymor hir, felly mae ein cronfeydd dŵr mewn rhai ardaloedd – yn arbennig y de-ddwyrain – yn is o lawer nag y byddem wedi ei ddisgwyl ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

“Mae’r rhagolygon am hydref sy’n fwy sych na’r cyfartaledd hefyd, ac mae’r ffaith nad oes disgwyl llawer o law yn y dyfodol uniongyrchol yn destun pryder.

“Er ein bod ni’n gofyn i’n cwsmeriaid beidio â gwastraffu dŵr fel arfer, nawr rydyn ni’n annog ein holl gwsmeriaid i ddefnyddio’r dŵr sydd ei hangen arnynt yn unig dros yr hydref a’r gaeaf er mwyn sicrhau y gall ein cronfeydd lenwi cyn gynted â phosibl fel bod yna ddigon o ddŵr i’n holl gwsmeriaid yr haf nesaf.

“Byddwn ni’n chwarae ein rhan ni hefyd trwy barhau i weithio mor galed â phosibl i ddod o hyd i ollyngiadau a’u trwsio cyn gynted ag y gallwn ni a thrwy fuddsoddi yn y rhwydwaith i’w wneud mor effeithlon â phosibl.”