Bydd dros £600,000 yn cael ei ddosbarthu i brosiectau cymunedol yn y rownd ddiweddaraf o grantiau Gwella Sir Benfro.
Mae cyfanswm o £3,218,433 wedi’i ddyfarnu i 185 o brosiectau ers i’r cynllun grant, a gafodd ei ariannu gan elfen gymunedol premiwm treth cyngor ail gartrefi, ddechrau.
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir Penfro gymeradwyo argymhellion a wnaed ym melin grant fis diwethaf, lle cafodd 30 o geisiadau eu hystyried.
Mae adroddiad i’r Cabinet ddydd Llun (Tachwedd 7) yn crynhoi 26 o geisiadau llwyddiannus mewn gwahanol leoliadau gafodd eu heffeithio gan y diwydiant twristiaeth yn Sir Benfro, a phedwar nad oedden nhw’n llwyddiannus.
Mae cyfanswm Hydref o £630,735 yn cynnwys grantiau ar gyfer Cymdeithas Gymunedol Amroth a’r Cylch, Prosiect Hanes Cymunedol Ardal Cosheston, Gwyl Fel Na Mai, Clwb Criced Penfro, Gofal Solfach, Tŷ Shalom a Ffrindiau Ysgol Dinbych-y-pysgod.
Ymysg y prosiectau mae gwelliannau i gyfleusterau cymunedol, campfa awyr agored, cymorth cymunedol, gweithgareddau awyr agored a chreadigol, cydlynwyr gwirfoddol, cegin gymunedol, parciau chwarae a gŵyl Gymraeg.