Mae gŵr a gwraig wedi bod yn codi arian ar gyfer dementia, ac wedi bod yn trafod y cyflwr â golwg360.

Bu farw mam Alun Davies yn 80 oed yn 2003 ac mae ei wraig Janet o Fethesda wedi bod yn gwneud taith gerdded yr October Dog Walking Challenge i godi arian at Dementia UK, gan gerdded 103 o filltiroedd.

“Mae Dementia yn effeithio ar gymaint o deuluoedd,” meddai.

“Ond mae’n berth personol i mi achos roedd mam Alun wedi dioddef efo dementia yn hirach na be’ oeddan ni’n feddwl.”

Mae Alun Davies yn chware gitâr i Hogia Bonc, ac wedi ysgrifennu cân o’r enw ‘Vera May’, sydd wedi’i henwi ar ôl ei fam.

“Mae’r gân am ddementia a thrio cofio ’nôl sut oedd pethau cyn iddi fynd yn sâl, a wedyn mynd trwy gyfnod o pan oedd hi’n sâl, be’ wnaeth ddigwydd a bod hi wedi mynd mewn i dwll du a methu dod o ’na.

“Mae’r gân am y ffordd oedd mam efo fi’n blentyn, a bod hi wedi dirywio a dirywio.

“Doedd hi ddim yn nabod ni’n diwadd.”

Y gân

Mae Alun Davies yn dweud bod y gân yn ymddangos ar CD diwethaf Hogia Bonc, sef Pesda Bach.

Ysgrifennodd o’r gân, a fo sy’n ei chanu.

Graham Jones o Bethel wnaeth y trefniant, yr offerynnau a’r cynhyrchu.

Eglura’r cwpl pa mor anodd oedd gweld bod ganddi ddementia.

Dywed Janet Davies bod tad Alun yn ateb drosti, a doedd hi’n methu ateb a’i fod o’n ei hamddiffyn.

“Oedd gynna fi gywilydd nad o’n i ddim wedi sylwi bod y peth yn digwydd, am fod Dad yn cuddiad o gymaint,” meddai Alun Davies.

“Ar ôl i dad farw, wnaethon ni sylwi pa mor ddrwg oedd hi – roedd rhaid iddi hi fynd i gartref bron iawn yn syth – [ac ro’n i’n teimlo] cywilydd nad o’n i wedi helpu dad tra oedd o’n fyw.”

Y teithiau cerdded

Dywed Janet Davies ei bod hi a Popi y ci wedi mwynhau’r cerdded yn fawr iawn.

“Ti’n mynd allan, ti’n cyfarfod â phobol,” meddai.

“Mae Popi mor ciwt, a phobol yn stopio a dweud helo wrthi hi.”

Dechreuodd y daith gerdded ym mis Hydref pan oedd Janet ac Alun Davies ar eu gwyliau yn Iwerddon.

Roedd rhan gynta’r daith gerdded yn Fetard yn sir Tipperary, ac roedd y tywydd yn wael ond yn newidiol wrth iddi hi a Popi gerdded yn Dungarvan, Old Head, Bantry a Cliffs of Moher, yn ogystal â thraethau bendigedig Waterville.

“Ers dod adref mae’r tywydd wedi bod yn wlyb,” meddai.

“Medri di wneud chwe milltir yn hawdd mewn tywydd braf ar lonydd cefn Bethesda.”