Nod Pennaeth Cyfathrebu, Ymgyrchoedd ac Aelodaeth newydd YesCymru yw cynyddu’r aelodaeth ac ailymweld â’r rhesymau arweiniodd gymaint i ymaelodi yn y lle cyntaf.

Ychydig dros 7,000 o aelodau sydd gan y mudiad dros annibyniaeth ar y funud, wedi iddyn nhw golli tua 10,000 o aelodau y llynedd.

Yn ystod y pandemig, cynyddodd yr aelodaeth yn sydyn o 2,500 i 18,000, ond fe wnaeth “problem dechnolegol” olygu nad oedd aelodau’n ailymaelodi’n awtomatig wrth i’r flwyddyn ddod i ben.

Fodd bynnag, mae Carwen Davies, sydd wedi’i phenodi i’r tîm sy’n rhedeg yr ymgyrch o ddydd i ddydd, yn dweud mai’r nod ydy “defnyddio gwahanol ddulliau o gyfathrebu i hysbysebu pobol o’r buddion o fod yn aelodau a buddion annibyniaeth”.

Gyda system aelodaeth newydd yn dod i rym yn y flwyddyn newydd, mae hithau, a’r Prif Weithredwr newydd Gwern Gwynfil, yn gobeithio y bydd yr aelodaeth yn cynyddu.

Mae gan Carwen Davies flynyddoedd o brofiad ym maes cyfathrebu, y cyfryngau ac ymgyrchu, a bu’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu gydag Undeb Amaethwyr Cymru cyn hyn.

Y nod yw creu mwy o ymwybyddiaeth o’r hyn mae YesCymru’n ceisio’i wneud, a dangos manteision annibyniaeth i bobol fel eu bod nhw’n ymaelodi, meddai Carwen Davies wrth golwg360.

Dywed y bydd cynnal ymgyrchoedd cryf yn rhan o’r strategaeth hefyd.

“Rydyn ni’n fodlon iawn i siarad efo pwy bynnag sy’n fodlon gwrando arnom ni,” meddai Carwen Davies.

“Mae’r ddeiseb sydd gennym ni ar y funud, ynglŷn ag adnoddau naturiol Cymru, wedi bod yn boblogaidd dros ben.

“Rydyn ni’n hybu hwnnw ar y funud, a dw i’n meddwl bod hynny’n dangos i rywun ein bod ni o ddifrif ynglŷn â’r ymgyrch ac ein bod ni’n gallu dangos ystadegau data i gefnogi’r ffaith ein bod ni’n trio cael annibyniaeth a pham ein bod ni’n trio’i gael a chymaint o fudd fyddai gallu cael y pŵer yna i bobol yn y Senedd fel ein bod ni’n rheoli ein hadnoddau ein hunain.

“Mae’n bendant eisiau rhoi data i bobol.

“Rydyn ni yn y broses o greu grwpiau lle rydyn ni’n mynd i gael pobol i ymchwilio mewn i ddata, ac mi fyddan ni’n cael data lot mwy robust i’w roi allan i’r cyhoedd.

“Bydd hynny’n rhoi cyfle i bobol weld pam rydyn ni’n ei wneud, a beth fydd y buddion iddyn nhw ac i’r wlad yn y pendraw.”

Mae yna drafodaethau ar y gweill ar gyfer ymgyrchoedd newydd, gan gynnwys gobeithion i gynnal rali yn Llyn Efyrnwy ar Dachwedd 20 er mwyn tynnu sylw at yr ymgyrch dros reoli adnoddau Cymru yng Nghymru.

“Wedyn gobeithio yn y flwyddyn newydd, bydd gennym ni ymgyrchoedd newydd,” meddai wedyn.

“Un yn Abertawe gobeithio, ac rydyn ni’n gobeithio cael cynhadledd yn Aberystwyth flwyddyn nesaf fydd yn dod â phawb at ei gilydd ac yn rhoi cyfle i ni gyflwyno ein strategaeth a’n gweledigaeth am y dyfodol.”

Canghennau lleol

Gyda changhennau lleol ledled Cymru, mae gwaith i’w wneud er mwyn sicrhau eu bod nhw mor weithredol â phosib hefyd, yn ôl Carwen Davies.

“Mae yna rai grwpiau sydd ddim mor weithredol ag oedden nhw efallai, neu mor weithredol fedran nhw fod… mae hynny’n un o’r pethau mae Gwern a finnau’n mynd i edrych arno, sut fedrwn ni ymgysylltu efo nhw a sbarcio eu brwdfrydedd nhw eto,” meddai.

“Maen nhw i gyd wedi ymuno efo ni yn y lle cyntaf am reswm, felly rydyn ni eisiau mynd yn ôl ac ymweld â’r rhesymau yna a deall be’ oedd eu rhesymau a’u helpu nhw i sbarduno ymlaen i weithredu mwy dros yr ymgyrch a bod yn fwy gweithredol.”