Bydd arweinydd plaid wleidyddol yng Nghatalwnia a gafodd ei garcharu am ei ran yn refferendwm annibyniaeth aflwyddiannus 2017 yn cael parhau yn ei rôl.

Daw hyn ar ôl i Oriol Junqueras gael ei ailethol mewn pleidlais fewnol, gan ennill 87% o’r pleidleisiau.

Cafodd ei garcharu am 13 o flynyddoedd, ac fe dreuliodd dair blynedd a hanner dan glo cyn cael pardwn.

Fe bleidleisiodd 50.2% o’r bobol oedd yn gymwys i bleidleisio.

Bydd yn cael parhau’n llywydd y blaid, a bydd Marta Rovira yn parhau’n ysgrifennydd cyffredinol.

Fe fu’r ddau wrth y llyw ers 2011, a hwn fydd eu tymor olaf o bedwar, a hynny o ganlyniad i’r rheolau etholiadol.

Fe fu Marta Rovira’n byw’n alltud yn y Swistir ers pedair blynedd a hanner er mwyn osgoi cael ei herlyn.

Maen nhw wedi cael pedwar tymor yn hytrach na thri ar ôl dadlau bod sefyllfa’r refferendwm yn 2017 yn golygu nad oedden nhw wedi gallu gwneud eu gwaith am beth amser.

O dan eu harweinyddiaeth, aeth Esquerra o sefyllfa lle’r oedd ganddyn nhw ddeg sedd yn 2011 i 33 erbyn hyn, ac maen nhw’n arwain Catalwnia ar eu pennau eu hunain am y tro cyntaf ers 89 o flynyddoedd.

Bydd Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia, yn parhau’n gydlynydd cenedlaethol y blaid, tra bydd y llefarydd Marta Vilalta yn parhau’n ddirprwy ysgrifennydd cyffredinol.