Mae angen gwneud “gwaith brys” i gael gwared ar dlodi plant yng Nghymru, medd Plaid Cymru.

Bydd y blaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer cynllun Gweithredu ar Dlodi Plant mewn dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 14).

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020, ond cafodd y targed ei ollwng yn 2016.

Mae pryderon wedi codi am y diffyg targed gan sawl asiantaeth ac elusen, gan gynnwys Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru.

“Ar hyn o bryd Cymru yw’r rhan waethaf yn y Deyrnas Unedig o ran tlodi plant ac rydyn ni hefyd yn profi’r tlodi plant gwaethaf ers nifer o ddegawdau,” meddai.

“Heb dargedau mae’n anodd iawn i mi wneud fy ngwaith a dwyn llywodraeth Cymru i gyfrif a wir gweld pa mor dda maen nhw’n gwneud neu pa mor wael yr ydym yn ei wneud.

“Mae gosod targedau clir ac uchelgeisiol yn rhan o’r ateb yn unig a dwi’n galw am hyn er mwyn fy helpu i gyflawni fy swydd, ac er mwyn helpu plant a phobol ifanc i ddod allan o’r sefyllfa enbyd maen nhw’n cael eu hunain ynddi ar hyn o bryd.”

‘Cywilyddus o uchel’ 

Bydd Plaid Cymru’n defnyddio dadl olaf y flwyddyn yn y Senedd i alw ar y llywodraeth i weithredu ar dlodi plant, a beirniadu’r penderfyniad i ollwng yr hen gynllun heb fynd ati i greu un newydd.

“Mae’r argyfwng costau byw presennol wedi gwaethygu lefelau tlodi plant yng Nghymru heb os, ond roedd y lefelau hynny eisoes yn gywilyddus o uchel, gan olygu bod teuluoedd Cymru’n rhy agored i sioc economaidd,” meddai Sioned Williams, llefarydd cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb Plaid Cymru.

“Ynghyd â nifer o ymgyrchwyr gwrthdlodi ar draws Cymru, y Comisiynydd Plant a Swyddfa Archwilio Cymru, mae Plaid Cymru yn glir bod angen strategaeth newydd gyda thargedau i sicrhau bod y gwaith brys sydd ei angen i ddileu staen tlodi plant yn effeithiol.

“Mae Plaid Cymru wedi codi hyn dro ar ôl tro yn y Senedd, ac mae’n hollol ddigalon ein bod ni’n gorfod trafod y peth unwaith eto.

“Rydym yn falch bod camau hanfodol fel prydau ysgol am ddim cyffredinol mewn ysgolion cynradd yn cael eu darparu erbyn hyn o ganlyniad i’n Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, ond mae cymaint mwy sydd angen ei wneud.

“Bydd strategaeth gyda thargedau yn gyrru’r gwaith hwnnw ar draws y llywodraeth ac yn sicrhau bod angen canolbwyntio a phenderfyniad er mwyn dod â thlodi plant i ben.”