Mae Llywodraeth Cymru yn “debygol iawn” o adeiladu trydedd bont dros y Fenai erbyn 2030.

Cafodd hyn ei ddatgelu mewn diweddariad o’r prosiectau sydd ganddyn nhw ar y gweill dros y blynyddoedd nesaf.

Mae’r llywodraeth yn amcangyfrif y byddai’r prosiect yn costio £400m, a’r gobaith yw dechrau’r gwaith adeiladu yn 2027 a’i gwblhau erbyn 2029/30.

Cafodd Pont Menai ei chau ar Hydref 21 er budd diogelwch y cyhoedd, ar ôl i risgiau difrifol gael eu nodi gan beirianwyr strwythurol.

Mae hynny yn golygu mai dim ond un croesiad sydd ar agor rhwng yr ynys a’r tir mawr ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, er gwaetha’r ffaith fod y prosiect yn “debygol iawn” o gael ei gyflawni, mae Llywodraeth Cymru yn nodi nad oes “ymrwymiad ffurfiol” i wneud hynny.

Mae pob prosiect adeiladu ffyrdd wedi’i atal gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd gan eu bod yn cynnal adolygiad i asesu sut fyddai gwahanol gynlluniau yn cyd-fynd â’u strategaeth amgylcheddol.

‘Buddion i’r economi’

Mae Sefydliad y Peirianwyr Sifil yng Nghymru yn galw am adeiladu trydedd bont heb oedi.

“Fel cenedl mae’n rhaid parhau i fuddsoddi mewn isadeiledd oherwydd yn amlwg mae diffyg gwytnwch yn y rhwydwaith drafnidiaeth yng Ngogledd Cymru,” meddai’r cyfarwyddwr Keith Jones.

“Mae cysylltiad wedi’i brofi rhwng cyflwr isadeiledd gwlad a’i heconomi.

“Am bob punt sy’n cael ei fuddsoddi mewn isadeiledd, mae’n cynhyrchu £2.85 o fuddion i’r economi.”

“Gwthio i wireddu” trydedd bont

“Da gweld trydydd croesiad y Fenai ymhlith prosiectau seilwaith Llywodraeth Cymru,” meddai Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ynys Môn.

“Caiff ei ddisgrifio fel prosiect sy’n ‘debygol iawn’ o gael ei gyflawni, byddwn yn dal i wthio i wneud hynny.”