Bydd rhaid i awdurdodau lleol barhau i wneud “penderfyniadau anodd”, er eu bod nhw’n croesawu’r setliad ariannol diweddaraf gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi setliad ariannol dros dro llywodraeth leol ar gyfer 2023-24 heddiw (Rhagfyr 14), ac ar gyfartaledd bydd cynghorau yn derbyn cynnydd o 7.9% mewn cyllid.

Ni fydd unrhyw awdurdod lleol yn cael llai na 6.5% o gynnydd, ac mae’r cynnydd cyfartalog yn gyfystyr â swm o £400 miliwn.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi croesawu’r cynnydd, ond maen nhw’n rhybuddio bod yr amgylchiadau economaidd presennol am barhau i greu heriau.

‘Penderfyniadau anodd’

Mae’r cyllid wedi “rhagori” ar ddisgwyliadau cynghorau, meddai arweinydd y Gymdeithas ac arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan.

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn derbyn cynnydd o 6.6% mewn cyllid.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Gweinidog am wrando ar ein hachos dros fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol, ysgol, a gwasanaethau allweddol eraill gan gynghorau,” meddai Andrew Morgan.

“Ond llwm yw’r rhagolygon economaidd o hyd sy’n golygu y bydd yn rhaid i gynghorau wneud penderfyniadau anodd i gwrdd â bylchau cyllidebol cynyddol oherwydd biliau ynni, chwyddiant a chostau cyflogau.

“Ychydig dros hanner y pwyseddau’r flwyddyn ariannol nesaf sy’n cael eu cyfarch gan y setliad hwn.

“Edrychwn ymlaen at barhau gyda’r ymgysylltu adeiladol gyda Llywodraeth Cymru fel ein bod yn gallu gweithio gyda’n gilydd i ddarparu i Gymru gyfan.”

‘Dan bwysau dros ben’

Mae Arweinydd Cyngor Ynys Môn, a fydd yn gweld cynnydd o 7.9% yn eu cyllid ar gyfer 2023-24, o’r un farn.

“Pob dydd o’r flwyddyn, gwneir gwaith arbennig gan ein cynghorau i wella bywydau pobol ac i gefnogi ein cymunedau,” meddai Llinos Medi.

“Ond dyw ddim yn gyfrinach bod gwasanaethau sy’n achubiaeth i gynifer, megis gofal cymdeithasol, gan bwysau dwys dros ben.

“Tra’r ydyn ni’n gorfod cwrdd â biliau ynni a phwyseddau chwyddiant sy’n cynyddu tu hwnt i bob rheswm, y canlyniad yw fod yr arian sydd gennym ni i wario ar wasanaethau hollbwysig yn sylweddol yn llai.

“Rydyn ni wrth gwrs yn gwerthfawrogi’n fawr y setliad yma gan Lywodraeth Cymru, ond mae’n bell o fod yn fwled arian i heriau cyllidebol neilltuol.

“Bydd yn rhaid i ni o hyd ymgynghori ein cymunedau ar benderfyniadau anodd dros ben i helpu i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn aros yn hyfyw i bawb sydd eu hangen nhw.”

‘Cyllid teg i gymunedau gwledig’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r setliad hefyd, gan ddweud eu bod nhw’n falch o weld cyllid teg i gymunedau gwledig.

“Rydyn ni’n falch o weld bod [Llywodraeth Cymru] wedi gwrando ar ein galwadau i roi cyllid teg i gymunedau gwledig, gyda chynghorau Gogledd Cymru o’r diwedd yn hanner uchaf y tabl,” meddai Sam Rowlands, llefarydd Llywodraeth Leol y Ceidwadwyr Cymreig.

‘Sail gadarn i gynllunio’

Wrth gyhoeddi’r cynnydd, dywedodd Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru, Rebecca Evans, bod y setliad yn “cynnig sail gadarn i gynghorau lleol allu cynllunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, a thu hwnt”.

“Pan gyhoeddais ein cyllideb ddoe, rhoddais flaenoriaeth i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, a bydd y cynnydd hwn mewn cyllid i gynghorau – sy’n darparu cymaint o’r gwasanaethau hyn – yn rhan annatod o hynny,” meddai.

“Fodd bynnag, rwy’n gwybod bod y pwysau o ran chwyddiant a wynebir gan wasanaethau yn golygu y bydd dal angen i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd wrth bennu eu cyllidebau.

“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda llywodraeth leol er mwyn mynd i’r afael â’r heriau cyffredin rydym yn eu hwynebu a darparu gwasanaethau er lles pobl Cymru.”

Pobol fregus “ar eu colled”

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyllid a llywodraeth leol, Llŷr Gruffydd AS: “Y setliad hwn yw pris penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i osod llymder ar Gymru.

“Mae’n bell o’r hyn sydd ei angen i atal cynnydd mawr yn nhreth y cyngor a thoriadau pellach i wasanaethau.

“Er bod croeso i unrhyw gymorth ychwanegol, bydd rhai rhannau o Gymru nawr yn wynebu cynnydd aruthrol yn nhreth y cyngor.

“Ar yr union bryd y mae’n dinasyddion a’n cymunedau mwyaf bregus yn dechrau pwyso’n drymach ar wasanaethau cyhoeddus lleol, bydd llawer o’r gwasanaethau hynny nawr yn cael eu diddymu.

“Os nad yw Llywodraeth Cymru’n gallu rhoi’r cyllid sydd ei angen ar gynghorau yna fe ddylen nhw o leiaf roi mwy o hyblygrwydd iddyn nhw ar sut i’w wario.

“Mae angen sylweddoli hefyd bod yn rhaid i unrhyw ddyletswyddau newydd sy’n cael eu gosod ar gynghorau naill ai ddod â chyllid ychwanegol neu gael eu cyflwyno’n fwy graddol.

“Er bod y defnydd o fformiwla ariannu ar gyfer setliadau cynghorau lleol wastad yn manteisio rhai yn fwy nag eraill, y rhai sydd ar eu colled fwyaf heddiw yw’r teuluoedd a’r unigolion hynny fydd yn cael eu gadael gyda llai o gefnogaeth yn eu hawr o angen.”

Mae ymgynghoriad ar y setliad dros dro wedi agor heddiw, a bydd yn para am saith wythnos.

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru “am weld ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaethau lleol yn parhau”

“Fel mae’n sefyll, mae gwasanaethau lleol yn wynebu twll du cyllidebol o £784m dim ond am y flwyddyn nesaf, sydd ond yn debygol o gynyddu fwyfwy”