Mae menter gymunedol ger Machynlleth wedi cyrraedd eu targed a chodi digon o arian i brynu tafarn y pentref.
Roedd Menter y Glan yn anelu at godi £250,000 er mwyn prynu tafarn Glan yr Afon ym Mhennal.
Yn ôl Meirion Roberts, Cadeirydd Grŵp Llywio Menter y Glan, mae llwyddo i godi digon o arian yn “wyrthiol” mewn pentref mor fychan.
Tua 150 dai sydd ym Mhennal, ac ychydig dros 300 o bobol, ac mae’r dafarn, sydd dal ar agor, yn fwy na thafarn ac yn hwb cymunedol hefyd, esbonia Meirion Roberts.
“Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi’i gyrraedd o,” meddai wrth golwg360.
“Rydyn ni wedi dechrau’r fenter yma yn yr amser mwyaf anodd posib, fyswn i’n dweud, rhwng Covid a chostau ynni’n codi, costau byw yn codi, pobol ddim efo’r arian i fuddsoddi fel oedden nhw ddwy, dair blynedd yn ôl.
“Lwcus iawn bod yna rai ohonom ni’n benderfynol ofnadwy!”
‘Gwasanaeth i’r gymuned’
Mae Glan yr Afon wedi bod ar werth ers tua thair blynedd a hanner, a chafodd yr ymgyrch gymunedol i godi arian drwy gyfranddaliadau ei lansio dros yr haf.
“Maen nhw wedi methu cael prynwr preifat. Mae pethau’n mynd yn fwy anodd a mwy anodd o hyd, ac ar ddiwedd y dydd, eisiau cynnig gwasanaeth i’r gymuned ydyn ni,” meddai Meirion Roberts.
“Mae o wedi cychwyn yn y Cyngor Cymuned, pobol yn dod at y Cyngor Cymuned yn poeni ein bod ni’n mynd i golli’r dafarn.
“Fe wnaethon ni golli’r siop ryw bump, chwe blynedd yn ôl rŵan.”
Mae cael gwasanaethau lleol yn mynd yn fwyfwy pwysig, ychwanega Meirion Roberts.
“Dydy o heb fod yn hawdd o gwbl, mae pob step o’r ffordd wedi bod reit anodd. Rhywbeth syml fel agor cyfrif banc, er enghraifft.
“Mis bach llynedd oedd hi, Covid yn ei le a phobol ddim yn gweithio yn y banciau yma, banciau ddim yn dod yn ôl atom ni… gymrodd hi ddau fis a hanner i ni allu agor cyfrif banc. Pethau bach fysa chi’n feddwl fysa’n hwylus, ond dydyn nhw ddim wedi bod yn hwylus.
“Mae’r gymuned wedi bod yn hael iawn yn buddsoddi, rydyn ni wedi cael help gan bobol sy’n cyflenwi’r dafarn efo bwyd a diod, ac rydyn ni wedi cael lot o help o’r tu allan.”
Mae’r actor Matthew Rhys, sydd â chysylltiadau teuluol cryf â’r ardal, wedi bod yn cefnogi’r fenter hefyd.
‘Busnes llewyrchus’
Bydd y fenter gymunedol yn cymryd y busnes drosodd gan y perchnogion presennol, a’r gobaith yw ei symud ymlaen yn y ffordd rwyddaf bosib, meddai Meirion Roberts.
“Yn wahanol iawn i gymunedau eraill sydd wedi prynu tafarn leol, mae’r rhan fwyaf o’r rheiny wedi bod ar gau ac maen nhw’n cychwyn o scratch, ond mae’r busnes yn fan hyn yn llewyrchus.
“Dydy’r perchnogion ddim yn gwerthu achos eu bod nhw ddim yn gwneud arian, maen nhw’n gwerthu achos eu bod nhw eisiau newid lifestyle.”
Byddan nhw’n cadw’r staff sy’n gweithio yno rŵan, gan gynnwys y cogyddion, ac yn hysbysebu am reolwr a staff i weithio tu ôl i’r bar, eglura Meirion Roberts.
“Does dim rhaid i ni wneud llwyth o arian, ond mae’n rhaid iddo dalu ei ffordd, wrth gwrs.
“Mae rhai o’r henoed yn y pentref eisiau i ni agor ambell i brynhawn fel hwb cynnes.”
Mae’r fenter yn awyddus i ddatblygu siop a chaffi ar y safle, ac yn ddiweddarach datblygu’r ystafelloedd i fyny’r grisiau i greu llety.
“Prynu’r dafarn oedd y nod i gychwyn beth bynnag,” ychwanega.