Mae Catherine Fookes, y ddynes sydd wedi cael ei dewis i herio sedd Mynwy i’r Blaid Lafur yn yr etholiad nesaf, yn dawel hyderus fod yna “newid ar droed” yn yr etholaeth.

Pleidleisiodd aelodau Llafur lleol dros Catherine Fookes mewn cyfarfod dethol yn Nhrefynwy ddydd Sul (Rhagfyr 11), wrth iddi ennill 70% o’r bleidlais yn y rownd gyntaf.

Mae’r fam i ddau wedi byw yn Nhrefynwy ers 20 mlynedd, ar ôl cael ei magu yn Dorset.

Astudiodd Ffrangeg ac Astudiaethau Busnes yn y brifysgol.

Cafodd ei hethol i Gyngor Sir Mynwy am y tro cyntaf yn etholiadau llywodraeth leol mis Mai, wrth i Lafur gipio grym gan y Ceidwadwyr drwy ennill pedair sedd yn fwy na’r Torïaid.

Mae hi eisoes wedi sefyll dros Lafur yn etholiadau Cynulliad Cymru yn 2016, gan ddod yn ail gyda 8,438 pleidlais tra bod y Ceidwadwyr wedi cadw’r sedd gyda mwyafrif o 5,147

Dydy Llafur ddim wedi ennill etholaeth Seneddol Mynwy ers 2001, gyda’r cyn-Aelod Seneddol Huw Edwards yn cael ei drechu gan David TC Davies yn 2005.

Ar hyn o bryd, mae gan David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fwyafrif o 9,982.

‘Ar ben fy nigon’

Wrth drafod cael ei dewis i fod yn ymgeisydd Llafur Mynwy yn yr etholiad nesaf, dywed Catherine Fookes wrth golwg360 ei bod hi ar ben ei digon.

“Roedd yr ymgeiswyr eraill yn wych, roeddwn i’n lwcus, gan fy mod wedi sefyll o’r blaen yn 2016 ac yn gynghorydd sir, i dderbyn lot o gefnogaeth gan bobol ar draws yr etholaeth,” meddai.

“Fe fyddai’n defnyddio lot ar y profiad yna (o sefyll ar gyfer Senedd Cymru).

“Wrth gwrs, roedden ni mewn lle gwahanol iawn bryd hynny.

“Ond mae’n brofiad fydd yn fy ngalluogi i baratoi’n drylwyr ar gyfer yr ymgyrch sydd i ddod pan ddaw at bethau megis adeiladu tîm, canfasio a gwybod am arferion da.

“Dw i’n meddwl fod y ffaith fod gen i’r profiad yna yn golygu y gall pobol ddibynnu arnaf i weithio’n galed a gwybod beth yr ydw i eisiau ei gyflawni o’r cychwyn cyntaf.”

“Newid ar droed” ym Mynwy

Mae yna “newid ar droed” ym Mynwy, yn ôl Catherine Fookes.

Yn ogystal â chipio rheolaeth o’r Cyngor Sir gan y Ceidwadwyr ym mis Mai, mae pôl piniwn diweddar gan Savanta yn awgrymu y byddai Llafur yn cipio’r sedd etholaethol pe bai yna etholiad yn cael ei gynnal nawr.

“Fe gipion ni’r Cyngor Sir gan y Ceidwadwyr ym mis Mai, ac mae’r polau piniwn yn dangos ein bod ni’n gwneud yn dda iawn,” meddai.

“Dw i’n credu fod yna bobol newydd wedi symud i fyw ym Mynwy hefyd, ond yn bennaf dw i’n meddwl fod pobol wedi cael llond bol yn sgil yr argyfwng costau byw.

“Maen nhw wedi’u siomi gyda’r ffordd mae’r Ceidwadwyr yn gweithredu, y ffordd wnaeth Liz Truss lesteirio’r economi.

“Y teimlad dw i’n ei gael ar y stepen ddrws ydi fod pobol eisiau newid.

“Ond dwi ddim yn cymryd dim byd yn ganiataol, fe fydd hi’n ymgyrch hir ac anodd.

“Yn amlwg, rydyn ni’n cymryd cysur o’r polau piniwn, ond fe all pethau newid.

“Fe fyddwn ni’n gweithio’n eithriadol o galed ar draws yr etholaeth o rŵan tan yr etholiad er mwyn ennill y sedd oherwydd dw i’n credu fod pobol Mynwy yn haeddu gwell.

“Dw i’n meddwl bod angen etholiad cyffredinol gyn gynted â phosib er lles y wlad.

“Dw i’n meddwl ein bod ni angen treth ffawdelw, mwy o gefnogaeth i bobol sydd ar fudd-daliadau, dyw’r Llywodraeth ddim yn cynnal trafodaethau digonol gyda’r undebau llafur.

“Rydyn ni yng nghanol gaeaf o anfodlonrwydd arall ac mae pobol yn gofidio.

“Felly gorau po gynta’ y cawn ni etholiad, gorau oll.”

Cymryd ysbrydoliaeth gan Lafur Cymru

Mae Catherine Fookes o’r farn y dylai’r Blaid Lafur yn San Steffan gymryd ysbrydoliaeth gan y blaid yng Nghymru.

“Un o’r pethau allweddol ar gyfer ennill yr etholiad cyffredinol nesaf fydd edrych ar y pethau rydyn ni wedi’u cyflawni yng Nghymru,” meddai.

“Rydyn ni wedi rhoi’r bleidlais i bobol 16 ac 17 oed er enghraifft.

“Ni oedd y wlad gyntaf i roi treth ar fagiau plastig.

“Rydyn ni’n darparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cynradd.

“Mae’n rhaid i ni ddangos bod modd gweithredu’r holl bethau rydyn ni wedi’u cyflawni yng Nghymru, yn San Steffan.”

Amrywiaeth a chydraddoldeb

Pe bai Catherine Fookes yn ennill sedd Mynwy, hi fyddai’r ddynes gyntaf i gynrychioli’r etholaeth.

“Yn sicr, mae hynny yn rywbeth sy’n fy ysgogi,” meddai.

“Dw i’n ymroddedig i amrywiaeth a chydraddoldeb rhywedd mewn gwleidyddiaeth.

“Fe fyddai’n anrhydedd mawr o gael bod y ddynes gyntaf i gynrychioli Mynwy yn Nhŷ’r Cyffredin.”