Mae angen cynyddu capasiti gweithlu’r sector llifogydd er mwyn ymateb yn well i dywydd eithafol y flwyddyn nesaf, yn ôl adroddiad newydd gan Archwilio Cymru.

Dywed fod stormydd megis Dennis a Ciara ym mis Mawrth 2020 yn debygol o ddigwydd yn fwy rheolaidd yn sgil newid hinsawdd.

Mae’r adroddiad yn ystyried sut y mae rheoli perygl llifogydd yn gweithio yng Nghymru, ynghyd â materion eraill sy’n allweddol i’r sector.

Mae costau sylweddol yn gysylltiedig â rheoli perygl llifogydd, gyda Llywodraeth Cymru yn darparu £59.6 miliwn o gyllid i reoli perygl llifogydd yn 2021-22.

Rhybuddia’r adroddiad bod angen buddsoddiad hirdymor sylweddol i fynd i’r afael â’r risgiau cynyddol sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd a llifogydd, tra bydd chwyddiant yn rhoi pwysau ar gyllidebau presennol.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nifer o faterion allweddol eraill sy’n effeithio ar reoli perygl llifogydd yng Nghymru:

  • Mae bylchau o ran arweinyddiaeth ar y cyd ac integreiddio polisi.
  • Mae bylchau mewn data ar berygl llifogydd ac mae’r peryglon eu hunain yn newid drwy’r amser gyda newid hinsawdd.
  • Gallai datblygu adeiladau mewn ardaloedd sydd mewn perygl mawr fod yn gadael aelwydydd a busnesau’n agored i berygl llifogydd y gellir ei osgoi.

“Cynyddu capasiti’r gweithlu”

“Y flaenoriaeth fwyaf uniongyrchol i’r sector llifogydd yw cynyddu capasiti’r gweithlu,” meddai datganiad gan Archwilio Cymru.

“Mae’r gweithlu cyfredol dan bwysau, a heb gapasiti ychwanegol yn y gweithlu a hynny yn y meysydd cywir bydd hi’n anodd ymdrin â’r heriau sy’n wynebu’r sector.

“Mae rheoli perygl llifogydd yn faes arbenigol, sy’n gofyn sgiliau eang y mae’n anodd dod o hyd iddynt.” 

“Cynllunio tymor hir”

Ychwanegodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: “Rydym wedi gweld effaith ofnadwy llifogydd ar ein cymunedau a’r economi ac mae newid hinsawdd yn golygu bod hyn yn debygol o ddigwydd yn fwy mynych.

“Nid yw’r materion yn newydd. Mae ein gwaith archwilio blaenorol ac adolygiadau eraill wedi amlygu’r angen i weithredu o ran cynllunio tymor hir, addasu i newid hinsawdd a meithrin capasiti’r gweithlu.

“Er gwaethaf rhai datblygiadau cadarnhaol, mae cwestiynau difrifol ynghylch gallu gwasanaethau cyhoeddus i aros gyfuwch â’r peryglon a’r heriau cynyddol sy’n gysylltiedig â llifogydd.”