Mae gan Lywodraeth Cymru “ddigon o gyfleoedd” i gynyddu tâl nyrsys, meddai Plaid Cymru wrth i’r gweithlu ddechrau streicio heddiw (Rhagfyr 15).

Bydd aelodau o’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn mynd ar streic heddiw a dydd Mawrth (Rhagfyr 20), ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y bydd y gweithredu’n “effeithio’n sylweddol” ar y Gwasanaeth Iechyd.

Wrth ddangos eu cefnogaeth tuag at nyrsys, mae Plaid Cymru’n mynnu bod rhaid i Lywodraeth Cymru beidio “cuddiad tu ôl i segurdod Llywodraeth y Deyrnas Unedig” ar y mater.

Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen mwy o arian gan Lywodraeth San Steffan i gwrdd â gofynion cyflog.

‘Digon o gyfleoedd i gefnogi’

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol nad oes gan Lywodraeth Cymru “unrhyw fwriad o ddod o hyd i ddatrysiad i’r anghydfod” dros dâl, a bod y streiciau’n “anochel yng Nghymru oherwydd bod Llywodraeth Cymru’n eu gwneud nhw’n anochel”.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cael digon o gyfleoedd i ddangos eu cefnogaeth tuag at ein nyrsys,” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru.

“Ydy, mae eu pwerau nhw’n gyfyngedig mewn sawl ffordd yn sgil penderfyniadau San Steffan, ond mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio hynny fel rheswm i guddio rhag eu cyfrifoldebau.

“Mae ganddyn nhw rywfaint o bŵer, a beth bynnag yw’r cyd-destun, mae angen blaenoriaethu wrth lywodraethu.

“Dro ar ôl tro, mae Plaid Cymru wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i edrych ar yr opsiynau sydd fewn eu rheolaeth – trethu, arian wrth gefn, ailddosbarthu arian.

“Ond mae gennym ni dystiolaeth glir yma – gan y nyrsys eu hunain – eu bod nhw wedi methu’n llwyr â gwneud hynny.”

‘Effaith sylweddol’

Bydd nyrsys pob bwrdd iechyd yng Nghymru heblaw Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn streicio heddiw ac wythnos nesaf, ac mae undeb y GMB wedi cadarnhau y bydd eu haelodau nhw’n mynd ar streic yn ystod y mis hefyd.

Mae’n debyg y bydd apwyntiadau nad ydyn nhw’n rhai brys ac apwyntiadau rheolaidd yn cael eu gohirio yn ystod y streiciau, meddai Llywodraeth Cymru.

Cynghorir pobol sydd angen cymorth brys neu sydd â chyflyrau sy’n bygwth bywyd i fynd i adrannau achosion brys neu gysylltu â’r gwasanaethau brys fel y bydden nhw wedi’i wneud ar unrhyw ddiwrnod arall.

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, eu bod nhw’n credu y dylai holl weithwyr y sector cyhoeddus gael eu gwobrwyo’n deg am y gwaith maen nhw’n ei wneud.

“Mae’n anochel y bydd y streiciau sy’n dechrau heddiw yn cael effaith sylweddol ar wasanaethau iechyd Cymru,” meddai.

“Ond rydyn ni’n cydnabod teimladau cryf staff, ac mae’r penderfyniad anodd i bleidleisio dros weithredu diwydiannol yn adlewyrchu hynny.

“Er nad oedden ni’n gallu osgoi gweithredu diwydiannol yr wythnos hon, mae’r holl bartneriaid wedi cytuno i ddal ati i siarad a pharhau i gydweithio.

“Byddwn yn parhau i gydweithio i ddod ag undebau llafur, cyflogwyr a’r llywodraeth ynghyd i sicrhau’r canlyniadau gorau posib i weithwyr gyda’r cyllid sydd ar gael gennym.”

Cyhuddo Prif Weinidog Cymru o wneud “dewis gwleidyddol” tros streic nyrsys

“Pe bai Mark Drakeford wir eisiau gwella’r cynnig tâl, gallai ddefnyddio’r pwerau trethi sydd ganddo ar flaenau ei fysedd,” meddai Andrew RT Davies