Mae miloedd o bobol yn wynebu Nadolig oer o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ôl Plaid Cymru.

Mae Ben Lake, llefarydd y Trysorlys y blaid, wedi beirniadu’r ffaith nad yw’r llywodraeth yn San Steffan wedi cynnig dyddiad eto ar gyfer taliad amgen o £200 ar gyfer tanwydd sydd oddi ar y grid, sydd i’w dderbyn cyn y Nadolig.

Dywed fod “oedi parhaus” gan weinidogion yn golygu y bydd miloedd o bobol yn ei etholaeth yng Ngheredigion heb gefnogaeth dros y Nadolig.

Mae’r taliad untro ar gyfer cartrefi sy’n defnyddio olew gwresogi, sydd â bwyler LPG neu fiomas, neu sy’n defnyddio tanwydd tebyg i wresogi eu cartrefi.

£100 oedd y taliad gwreiddiol i fod, ond daeth cyhoeddiad fel rhan o Ddatganiad yr Hydref fod y swm am gael ei ddyblu, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod dweud pryd yn union fydd pobol yn ei dderbyn.

Wrth ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Ben Lake, dywedodd Graham Stuart, Gweinidog Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol San Steffan, fod “y Llywodraeth yn disgwyl i’r taliad hwn gael ei wneud yn y flwyddyn newydd”.

Y sefyllfa

Yn ôl amcangyfrifon gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, doedd 74% o eiddo yng Ngheredigion, etholaeth Ben Lake, ddim ar y grid nwy yn 2020.

55% oedd y ffigwr ym Mhowys, 53% ar Ynys Môn a 49% yng Ngwynedd.

Ar y cyfan, dydy oddeutu 19% o gartrefi Cymru ddim wedi’u cysylltu i’r grid nwy.

Yn ôl Ben Lake, dydy’r taliad o £200 “yn amlwg ddim yn gyfystyr” â’r Gwarant Prisiau Ynni, fydd yn arbed tua £900 i bob aelwyd ar gyfartaledd.

Mae Plaid Cymru’n cynnig cynllun lle gall aelwydydd brynu 1,000 litr o olew gwresogi neu LPG cyfwerth, a fyddai’n golygu “lefel gefnogaeth gyfystyr” â’r gefnogaeth i aelwydydd sydd wedi’u cysylltu i’r prif grid nwy.

Ar y prisiau presennol, byddai taleb gwerth 1,000 litr o olew gwresogi – neu’r brif ffynonell o wresogi ar gyfer aelwydydd oddi ar y grid yng Nghymru – yn costio £969.82.

‘Cartref cynnes y Nadolig hwn’

“Mae oedi parhaus gan weinidogion yn San Steffan yn golygu y bydd miloedd o’m hetholwyr yn cael eu gadael heb gefnogaeth y Nadolig hwn,” meddai Ben Lake.

“I roi halen ar y briw, fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim hyd yn oed yn rhoi dyddiad i ni pan fydd taliadau’n cael eu gwneud.

“Dydy datganiadau annelwig ynghylch ‘y flwyddyn newydd’, yn syml iawn, ddim yn ddigon da.

“Wrth osod y gyfradd ar gyfer y Taliadau Tanwydd Amgen, dydy’r Trysorlys ddim fel pe baen nhw wedi ystyried y mater unigryw mae aelwydydd oddi ar y grid yn ei wynebu.

“Mae’n rhaid i nifer brynu gwerth misoedd o danwydd ar yr un pryd, sy’n eu rhoi nhw o dan bwysau ariannol ychwanegol.

“Mae’r straen o beidio â gwybod pryd fydd y Taliadau Tanwydd Amgen yn cael eu cyflwyno wedi gwaethygu’r mater hwn dros y misoedd diwethaf, gydag aelwydydd yn ansicr ynghylch a ddylid aros am gefnogaeth cyn prynu eu tanwydd.

“Tra bod y Canghellor yn honni bod y Taliadau Tanwydd Amgen wedi cael eu dyblu, cafoddd y taliad cyntaf ei gyflwyno i gyd-fynd â chwe mis cynta’r Gwarant Prisiau Ynni, gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi.

“O ystyried y bydd y cynllun ar gyfer aelwydydd sydd wedi’u cysylltu i’r grid yn cael ei ymestyn, er bod hynny ar gyfradd lai, o fis Ebrill, dylid rhoi sicrwydd nawr i aelwydydd oddi ar y grid y byddan nhw’nd erbyn ail rownd o’r Taliad Tanwydd Amgen y gaeaf nesaf.

“Dydy 74% o’m hetholwyr ddim wedi’u cysylltu i’r prif grid nwy.

“Cawson nhw addewid o lefel o gefnogaeth gyfystyr â’r hyn mae’r Gwarant Prisiau Ynni yn ei chynnig i’r rhai sydd ar y grid nwy.

“Dydy £200 yn amlwg ddim yn gyfystyr â’r Gwarant Prisiau Ynni, y mae’r Llywodraeth yn darogan y bydd yn arbed oddeutu £900 i aelwydydd ym Mhrydain Fawr ar y cyfan, o gymharu â phrisiau ynni heb ostyngiad o dan y cap prisiau.

“Felly mae Plaid Cymru’n galw ar y Llywodraeth i gyflwyno taleb gwerth 1,000 litr o olew gwresogi, sef y prif ffynhonnell o wres ar gyfer cartrefi oddi ar y grid yng Nghymru, sy’n werth £969.82 o dan y prisiau presennol.

“Mae angen brys ar gyfer hynny fel y gall teuluoedd gael cartref cynnes y Nadolig hwn.”