Mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, yn dweud bod Llywodraeth Cymru’n “dangos diffyg dealltwriaeth o ddifrifoldeb y sefyllfa” sy’n arwain at bobol yn methu cael gafaeal ar wrthfiotigau.

Mae’n galw am sicrwydd fod camau brys yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r prinder yn y cyflenwad o wrthfiotigau ledled Cymru.

Wrth godi Cwestiwn Brys yn y Senedd, dywedodd Mabon ap Gwynfor ei fod wedi clywed yn uniongyrchol gan fferyllwyr sy’n pryderu am brinder cyffuriau gwrthfiotig cyffredin fel Penisilin, Amoxicillin, Clarithromycin ac Erythromycin.

Caiff y meddyginiaethau hyn eu defnyddio i drin y dwymyn goch a Strep A, ac mae Amoxicillin hefyd yn cael ei ddefnyddio fel triniaeth rheng flaen ar gyfer heintiau anadlol.

Mae pryderon ledled y Deyrnas Unedig am brinder gwrthfiotigau, ynghyd â chynnydd sylweddol mewn costau cyfanwerthu, ac adroddiadau am gleifion yng Nghymru’n ymweld â 15 fferyllfa i geisio cael gafael ar benisilin.

Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd hefyd yn casglu tystiolaeth o’r cynnydd sydyn ym mhris gwrthfiotigau, ar ôl i brisiau godi’n aruthrol dros y bythefnos ddiwethaf.

Galw am sicrwydd

“Mae nifer fawr o rieni a fferyllwyr, yn wir, wedi dod ataf i dros y dyddiau diwethaf yn pryderu nad ydyn nhw’n medru cael gafael ar penicillin, amoxicillin, tyrothricin, ac erythromycin,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Mae fferyllwyr yn methu rhoi gwrthfiotig hylif i blant gan nad ydy o ar gael, ac yn gorfod dangos i ofalwyr neu rieni sut mae agor capsules a chymysgu’r powdr efo hylif arall er mwyn i blant gael y meddyginiaeth.

“Ar ben hynny, mae pris prynu’r cyffuriau yma i fewn wedi cynyddu’n aruthrol o £1 neu £2, mewn rhai achosion, i £8 neu £10 ar achosion eraill.

“Mae’r dwymyn goch wedi cychwyn ynghynt na’r arfer, ac mae pobl yn naturiol yn pryderu am strep A.

“Mae’n fy mhryderu i, felly, fod y neges sydd wedi dod allan o’r Llywodraeth dros yr wythnosau diwethaf wedi dangos diffyg dealltwriaeth o ddifrifoldeb y sefyllfa.

“Mae angen sicrwydd ar bobol Cymru fod yna feddyginiaeth elfennol ar gael pan fo’r angen yn codi heb orfod teithio pellteroedd weithiau hyd at 30 milltir neu aros wythnosau er mwyn cael y feddyginiaeth.

“Felly, a wnewch chi roi’r sicrwydd yna i ni, a hefyd a wnewch chi roi pwysau ar gwmnïau cynhyrchu i beidio manteisio ar yr argyfwng a chodi’r prisiau?”

Ymateb

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gwneuthurwyr a chyfanwerthwyr i gyflymu’r symudiad o stoc ychwanegol yn y gadwyn gyflenwad fel canlyniad i’r cynnydd sylweddol yn y galw,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wrth ymateb i gwestiwn Mabon ap Gwynfor.

“Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda’r byrddau iechyd a fferyllwyr cymunedol i sicrhau bod stoc ar gael i’w ddosbarthu lle mae’r galw ar ei uchaf.

“Rwy’n deall yn llwyr bryderon cleifion yn yr adegau anodd iawn hyn.

“Pan fo’ch plentyn yn sâl ac rydych yn gwybod fod potensial iddyn nhw gael strep A mewnlifol, yna rydych chi’n deall pam ein bod ni wedi gweld cynnydd enfawr mewn niferoedd cyswllt.

“Rwy’n credu ein bod ni wedi cael 18,000 o alwadau dros y penwythnos, ac roedd 54% o alwadau ddydd Sul yn ymwneud â phlentyn dan 14 oed.

“Felly mae gennym ni dîm rheoli digwyddiadau aml-asiantaeth yn ei le.

“Fel y dywedoch chi, mae rhuthr sydyn wedi bod yn y galw am wrthfiotigau, wnaeth arwain at anghyfleustra dros dro yn y cyflenwadau.

“Rydyn ni’n cydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflymu symudiad stoc ychwanegol i mewn i’r gadwyn gyflenwi, ac rydym wedi cyhoeddi arweiniad ar ddewisiadau gwrthfiotig amgen ac ar weinyddu tabledi a chapsiwlau i blant lle nad yw penisilin na gwrthfiotig hylifol ar gael.

“Hefyd, rydym wedi rhoi cyngor ynghylch sut mae modd rhoi dos solid i bobol sydd ag anawsterau llyncu lle mae prinder meddyginiaeth hylifol.

“Felly rydyn ni’n rhoi’r cyngor hwnnw, mae’r cyngor hwnnw wedi mynd allan ac, yn amlwg, os oes dewis amgen ac mae yna ddewis amgen, yna mae angen i ni gadw llygad ar hynny yn nhermau pris y gwrthfiotigau.”