“Mae rhoi’r gymuned wrth galon” y cynllun i gael porthladd rhydd yng Nghaergybi “yn wirioneddol bwysig”, yn ôl Rhun ap Iorwerth.

Daw sylwadau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ynys Môn ar ôl i gynnig gael ei gyflwyno gan Gyngor Sir Ynys Môn a Stena Line ar Dachwedd 24.

Bydd Llywodraeth Cymru’n ymateb i’r cais yn y gwanwyn a phe bai’n llwyddiannus, bydd y gwaith adeiladu’n dechrau yn 2024-25.

Mae hanes o fasnachu gydag isadeiledd o’r radd flaenaf ar Ynys Môn, a phrofiad o weithio gyda masnachwyr o bob rhan o’r byd.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, fe fyddai swyddi da ar gael i bobol leol yn sgil y cynllun.

Byddai’r swyddi yma yn talu yn dda, meddai, ac mewn meysydd arbenigol lle mae’n bosib hyfforddi ar eu cyfer nhw mewn colegau lleol.

Ynys Môn “fwy cynaliadwy”

Mae diffyg swyddi da yng Nghymru, meddai Rhun ap Iorwerth, ond byddai’r cynllun hwn yn cryfhau’r economi leol ac yn gwneud Ynys Môn yn fwy cynaliadwy.

“Mae rhywun yn edrych ar y range llawn o swyddi mewn difri,” meddai wrth golwg360.

“Mae rhywun yn gobeithio creu swyddi o safon uchel iawn yma.

“Os oes modd i annog gweithgynhyrchu, mae hynny yn rywbeth sy’n gallu cynhyrchu’r swyddi da hynny mewn perthynas â chynhyrchu rhannau o dyrbinau gwynt ar y môr, er enghraifft.

“Rydym hefyd yn sôn am swyddi da yn y maes peirianneg.

“Mae digidol yn elfen arall ohono fo, yn gweithio efo MSparc ar y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fan honno.

“Mae yna sgôp i greu llawer iawn o swyddi yn y maes digidol sydd yn swyddi sy’n talu cyflogau da.

“Drwy weithio efo Coleg Menai a Phrifysgol Bangor, mae rhywun yn clymu addysg a gwella sgiliau i mewn i’r cynllun mewn ffordd eithaf sylfaenol gobeithio.

“Cynllun annog buddsoddiad ydy o.

“Rydym yn gwybod mai un o’r heriau rydym yn wynebu yng Nghymru ydy creu swyddi da sydd yn talu’n dda.

“Drwy gael y cyfle yn fan hyn i gael hwb economaidd, mae rhywun yn gobeithio cynhyrchu mwy o bres i gael ei wario o fewn yr economi leol ac ar wneud cymunedau yn fwy cynaliadwy.

“Fel unrhyw gynllun economaidd, mae’r gymuned yn gorfod bod wrth ei wraidd.

“Beth o’n i’n eiddgar i wneud oedd sicrhau bod gennym y cynllun yma oedd wedi cael ei wneud yn Ynys Môn, efo amcanion a dyheadau Ynys Môn wrth ei wraidd.”

Dyfodol yr iaith

Yn ôl Rhun ap Iorweth, mae creu cyfleoedd i bobol ifanc yn ffordd o’u cadw yn eu cymunedau, sy’n diogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

“Fel popeth – tai, iaith, gwaith,” meddai wedyn.

“Maen nhw’n sloganau da iawn sy’n cael eu defnyddio ers degawdau.

“Mae rhaid i ni chwilio am ffyrdd o greu cyfleoedd i’n pobol ifanc ni, o roi gwreiddiau o fewn eu cymunedau eu hunain.

“Mae o’n un o’r hanfodion o sut rydym am hybu a diogelu’r iaith Gymraeg mewn cymunedau fel Ynys Môn.

“Mae rhaid i ni roi rheswm i’n pobol ifanc ni aros.

“Mae swyddi yn un o’r elfennau allweddol o hynny wrth gwrs.”

Cael cynnig mwy o arian

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae’r cais yn bell iawn o’r cynnig gwreiddiol, sy’n cynnig llai o arian na Lloegr.

Rŵan maent yn cael cynnig yr un faint, ac mae sicrwydd ynglŷn â hawliau gweithwyr a rheoliadau amgylcheddol.

“Y peth pwysig i fi ydy bod pobol yn gweld beth ydy’r cais yma,” meddai wedyn.

“Rydym yn sôn am gais yn fan hyn mewn cyd-destun gwahanol iawn i pan gafodd y cynnig gwreiddiol ei wneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Roeddent yn cynnig £8m i bob porthladd rhydd yng Nghymru, a £26m i bob un yn Lloegr, roedd hynny yn amlwg yn hollol annerbyniol.

“Roeddwn yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r hyn roeddwn i’n ei ddadlau, bod angen dadlau am faes chwarae gwastad.

“Dyna rydym wedi ei gael.

“Rydym yn cael cynnig yr un arian rŵan, wedi cael y sicrwydd ynglŷn â hawliau gweithwyr a rheoliadau amgylcheddol.

“Mae rhoi’r gymuned wrth galon y cynllun yn wirioneddol bwysig ni.”

Ynni adnewyddadwy

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, fe fydd sgôp ar gyfer nifer o gynlluniau ynni adnewyddadwy pe bai’r buddsoddiad yn dod, gan gynnwys cynllun prif lanw.

Mae gobaith y bydd ffermydd gwynt yn rhan o’r cynllun.

“Un o’r prif elfennau sydd wedi cael ei gynnwys yng nghais Ynys Môn ydy’r elfen o ynni, hynny oherwydd bod yna sgôp i ddatblygu a thyfu nifer o gynlluniau ynni adnewyddol fel rhan ohono fo,” meddai.

“Rydym yn gwybod bod yna stwff cyffrous iawn yn digwydd oddi ar arfordir Ynys Môn ar hyn o bryd efo Cynllun Morlais er enghraifft, cynllun prif lanw yn y fan honno.

“Rydym yn gobeithio ceith Caergybi ei ddewis fel y porthladd i wasanaethu’r genhedlaeth nesaf o ffermydd gwynt y môr, yn cynnwys tyrbinau gwynt sy’n arnofio ar wyneb y môr yn y dyfodol.

“Rwy’n meddwl bod yna sgôp go iawn fan hyn i roi hwb i’r diwydiannau ynni gwyrdd, a hydrogen yn elfen arall ohono fo os ydym ni yn llwyddo i dynnu’r arian a’r buddsoddiad yma i mewn.”