Mae’r wal dalu wedi ei chwalu ar yr erthygl ganlynol, i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…
Mae penderfyniad Cyngor Gwynedd i godi premiwm treth y cyngor ar ail dai i 150% wedi arwain at anghydweld ymhlith cynghorwyr y sir…
Mae tai haf, eu heffaith ar gymunedau Cymreig, a sut i fynd i’r afael â’r sgil effeithiau hynny wedi bod yn drafodaeth gyson yng Nghymru dros y blynyddoedd a’r degawdau diwethaf mewn difrif.
Ac mae hyn yr un mor wir yng Ngwynedd ac unman arall.
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Cyngor Gwynedd gytuno ar gynnig i godi’r premiwm treth y cyngor ar ail dai i 150% o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Mi fydd hyn yn golygu bod perchnogion ail dai yn y sir yn talu dwywaith a hanner y maint o dreth y cyngor o gymharu â rhywun gyda’i brif gartref yng Ngwynedd.
Bwriad y newid polisi yw ceisio lleihau’r nifer o ail dai, sydd yn cael y bai am atal pobol leol rhag medru cael cartrefi yn eu cymunedau.
Fel rhan o gytundeb cydweithio Llafur a Phlaid Cymru ym Mae Caerdydd, mae gan gynghorau sir ledled Cymru’r hawl i gynyddu’r premiwm i 300% o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Cafodd y cynnig i gynyddu’r premiwm i 150% yng Ngwynedd ei wneud gan y Cynghorydd Ioan Thomas, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Gyllid, wedi i’r cyngor gynnal ymgynghoriad ar y mater.
Ond nid pawb sydd wedi’u hargyhoeddi mai dyma’r ffordd orau i fynd o’i chwmpas hi.
Ynghyd â naw o gynghorwyr eraill, mae’r Cynghorydd annibynnol Richard Glyn Roberts, sy’n cynrychioli ward Abererch ym Mhen Llŷn ar Gyngor Gwynedd, wedi lleisio gofidion ynglŷn â chynlluniau’r Cabinet.
Mewn datganiad, mae’n cyhuddo Cabinet Cyngor Gwynedd o beidio “llwyr ystyried effaith cynyddu’r premiwm ar y boblogaeth frodorol a’r Gymraeg”.
Y pryder yw y gallai hyd at ddwy fil o dai sydd ar hyn o bryd yn dai haf a llety gwyliau, ddod ar y farchnad agored – ac nad oes yna ddigon o Gymry lleol i’w prynu nhw.
Mae’r naw cynghorydd yn annog aelodau’r Cabinet Plaid Cymru i ystyried mesurau eraill megis amrywio’r dreth drafodion tir, dosbarthiadau defnydd cynllunio a chwotas lleol er mwyn mynd i’r afael â thai haf.
“Simplistig”
Wrth egluro ei ofidion, dywedodd Richard Glyn Roberts wrth Golwg:
“Fy nheimlad i ydi bod yna ddwy fil o dai haf yn Nwyfor, yr ardal rhwng Aberdaron a Glynllifon i bob pwrpas, ac yn fy myw alla i ddim gweld bod gennym ni boblogaeth yn lleol i’w llenwi nhw.
“Mae’r tai yna, felly, wrth reswm mi fasa hi’n beth da pe bai ni’n gallu defnyddio mesurau eraill sydd wedi cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth, pethau megis cap ar dai haf.
“Ond os ydi rhywun yn mynd i droi rhai yn dai preswyl, yna nid tai preswyl i bobol leol fyddan nhw, dyna ydi’r pryder.
“Yn ôl polisi iaith Gwynedd mae unrhyw benderfynid strategol i fod yn destun Asesiad Effaith Ieithyddol.
“Ond dydi hyn ddim wedi’i wneud yn ei lawn ysbryd achos mae’r asesiad yna i fod i ystyried yr effaith ar y ganran o siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau neilltuol.
“Mae’n sicr nad ydi hynna wedi’i wneud os wyt ti’n edrych ar beth maen nhw’n ei alw’n Asesiad Effaith Cydraddoldeb, mi alli di weld bod hwnnw yn adroddiad o ryw 15 tudalen a does yna ddim ond tair brawddeg yn trafod yr effaith ar y Gymraeg.
“Ac mae’r brawddegau yn rhedeg yn rhywbeth tebyg i hyn: ‘Achos y bydd cynyddu’r premiwm yn rhyddhau mwy o dai i’r farchnad, yna fe fydd hi’n haws i bobol leol brynu tai ac fe fydd yr effaith ar y Gymraeg yn gadarnhaol’.
“Fy nadl i ydi bod y dehongliad yna ychydig bach yn simplistig oherwydd mewn gwirionedd, os bydd o’n rhyddhau tai i’r farchnad, does yna ddim sicrwydd pwy fydd yn eu prynu nhw.”
“Arwyddocaol”
Un o’r pethau mwyaf arwyddocaol ynglŷn â’r datganiad yn gofyn i’r Cabinet ailfeddwl, yn ôl Richard Glyn Roberts, yw’r ffaith fod y cynghorwyr eraill sydd wedi’w arwyddo i gyd yn cynrychioli cymunedau sy’n cael eu heffeithio gan dai haf.
Yn eu plith mae: John Brynmor Hughes (Abersoch a Llanengan), Eirwyn Williams (Cricieth), Hefin Underwood (De Pwllheli), Steven Churchman (Dolbenmaen) Anwen Davies (Efailnewydd a Buan), Gwilym Jones (Gorllewin Porthmadog), Angela Russel (Llanbedrog a Mynytho), Gruffydd Williams (Nefyn) a Gareth Williams (Pen Draw Llŷn).
“Mae o’n arwyddocaol oherwydd maen nhw’n adnabod eu hardaloedd ac yn gweld beth ydi’r broblem,” meddai Richard Glyn Roberts.
“Dw i’n meddwl y basa pob un ohonyn nhw’n cytuno bod yna broblem ynghylch tai haf.
“Ond wrth reoli’r broblem yna dydyn ni ddim eisiau taro brodorion sydd yn berchen ar fwy nag un tŷ, sydd naill ai yn gosod ymwelwyr neu sydd wedi etifeddu tŷ neu beth bynnag.
“Dydyn ni ddim eisiau creu amgylchiadau lle mae brodorion yn cael eu gorfodi i werthu eu heiddo.
“Rydan ni’n sôn yn fan hyn am dreth ar dŷ fasa [yn golygu bod bil treth y cyngor am] ddwy fil o bunnoedd yn mynd yn bum mil, yn dydyn.
“Rydan ni’n poeni’n neilltuol yn yr ardal yma fel mewn ardaloedd eraill ym Mhen Llŷn bod yna lawer o ffermwyr sy’n gosod i ymwelwyr.
“Ac oes, mae yna sôn am eithriadau yn y premiwm, ond does yna ddim eglurder na sicrwydd ynghylch yr eithriadau eto.
“Mae yna grybwyll, er enghraifft, am dai wedi’u trosi efo amod cynllunio arnyn nhw.
“Ond dydi pob un tŷ sy’n cael ei osod, neu bob un tŷ gwyliau sy’n cael ei osod ym Mhen Llŷn ac Eifionydd, ddim ag amod cynllunio arnyn nhw.
“Wedyn mae angen cryn dipyn yn fwy o eglurder a sicrwydd er mwyn sicrhau nad ydi mesurau yn taro’r boblogaeth leol – dyna ydi pryder llawer.
“Dw i ddim yn amau fod yna aelodau eraill sydd â gofidion gwahanol i mi, ond yn sylfaenol dau beth sydd gen i mewn golwg.
“Un ydi’r effaith ar frodorion, eu bod nhw’n cael eu gorfodi i werthu eiddo. A’r llall ydi’r effaith ddemograffig, beth wyt ti’n ei wneud efo dwy fil o dai gwag pan nad oes gen ti’r boblogaeth i’w llenwi nhw.
“Wyddost ti, does yna ddim dwy fil o dai ym Mhwllheli. Mae gen ti ddigon o dai haf i gynnwys poblogaeth Pwllheli i bob pwrpas.
“Ac wrth reswm, mae yna alw’n lleol am dai, ond does yna ddim galw’n lleol ar y raddfa yna.”
“Nid pawb sy’n genedlaetholwr pybyr”
Un arall sy’n gwrthwynebu cynyddu’r premiwm i 150% yw Gruffydd Williams, sy’n cynrychioli ward Nefyn ar y cyngor sir.
Roedd o’n cefnogi cynyddu’r premiwm i 100% ym mis Mawrth 2021, ond mae’n credu fod y cynnydd diweddaraf yn “gynamserol”.
Mae hefyd yn dweud “nad pawb sy’n genedlaetholwr pybyr”.
“Mae yna lot o bobol leol yn poeni bod y gwaith mae adeiladwyr ac ati’n ei gael o ail wneud y tai anferthol yma, tuag at Abersoch ac ati, yn mynd i adael yr economi leol,” meddai wrth Golwg.
“Ac mae yna elfen o wirionedd yn hynny. Ond wrth reswm fe alli di gloriannu hynny drwy ddweud pe bai yna rywun yn byw yna’n barhaol y byddan nhwythau eisiau gwneud pethau fyny hefyd, ond ella ddim mor grand.”
Mynd i’r afael â digartrefedd
Un o fanteision codi’r premiwm yw gallu defnyddio unrhyw arian ddaw i’r coffrau drwy’r godi’r dreth i sicrhau cartrefi i bobol leol, yn ôl y Cynghorydd Ioan Thomas, sy’n Aelod Cabinet Cyllid ar Gyngor Gwynedd.
“Hyd yma, mae’r arian sydd wedi ei gasglu drwy’r premiwm wedi ei glustnodi yn benodol ar gyfer y Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd,” meddai.
“O fewn y cynllun arloesol hwn, mae’r Cyngor wedi gallu bwrw ymlaen efo dau gynllun Tŷ Gwynedd fydd yn darparu cartrefi fforddiadwy ac addas i hyd at 86 o bobol o fewn eu cymunedau ym Mangor a Llŷn.
“Rydym hefyd wedi ehangu ar gynllun rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru, sy’n golygu bod y cynnig o fewn cyrraedd mwy o bobol Gwynedd.
“Rydw i’n galw ar fy nghyd-aelodau i ehangu ar hyn drwy sianelu unrhyw arian ychwanegol a ddaw o godi’r premiwm ar ail gartrefi tuag at gynlluniau i atal digartrefedd.
“Yn ystod 2021/22, cysylltodd 1,126 o bobol â’r Cyngor am eu bod yn ddigartref, sy’n gynnydd o 19% o gymharu â’r llynedd, a chynnydd o 47% ar y flwyddyn 2018/19.
“Does dim dwywaith fod yr argyfwng costau byw wedi cyfrannu’n fawr at y sefyllfa dorcalonnus yma.
“Mae sicrhau llety diogel i bobol sydd heb unlle arall i fyw yn golygu fod y Cyngor yn gwario £6m yn fwy eleni yn unig ar wasanaethau digartrefedd, ac mae hyn wrth gwrs yn arian nad yw ar gael i gynnal gwasanaethau angenrheidiol eraill.
“Rwyf felly yn argymell fod incwm ychwanegol o’r premiwm yn cael ei ddefnyddio i gau rhywfaint ar y bwlch hwn.”
Cartref fforddiadwy o safon “yn hawl greiddiol”
Yn y cyfamser, mae’r Cynghorydd Craig ab Iago, sy’n gyfrifol am dai ar Gabinet Cyngor Gwynedd, yn mynnu fod cael mynediad at gartref fforddiadwy o safon “yn hawl greiddiol i bob person”.
“Yn anffodus, yn y sefyllfa bresennol mae gormod o bobol Gwynedd yn cael eu prisio allan o allu fforddio i rentu eiddo neu brynu eu tai eu hunain,” meddai.
“Er mwyn taclo’r anghyfiawnder yma, mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu Cynllun Gweithredu Tai ar gyfer y sir sy’n cynnwys dros 30 o gynlluniau fydd yn darparu 1,500 o gartrefi o safon i bobl y sir dros y pum mlynedd nesaf.
“Byddwn yn defnyddio cyllid sy’n cynnwys y premiwm treth cyngor ar ail gartrefi a thai gwag i adeiladu tai newydd, prynu eiddo gwag a’u hadfer ynghyd â chynnig grantiau i bobol leol allu cael mynediad at dai.”
‘Oes yna genedlaetholwyr?’ – llythyr Dafydd Glyn Jones yn galw am ailfeddwl ar fater cynyddu’r dreth ail dai ar dudalen 13