Ers blynyddoedd lu bu Cymry’r gogledd yn rhai garw am heidio dros Glawdd Offa i shopa.

All neb wadu fod shopaholics Cymraeg wrth eu boddau yn byrlymu drwy strydoedd Caer, Lerpwl a Manceinion yn gwario fel ffyliaid.

Hwyrach nad ydy’r ffenoma Croesi Clawdd Offa I Shopa yn bodoli yn y de, canys y mae Caerdydd yn cynnig Y Profiad Prynu Posh (Perffaith?) i filoedd yno.

Ac wrth gwrs fod yna wefr o gael mentro i’r ddinas fawr a’i siopau crand, a chael mwynhau moethusrwydd y bwytai a’r gwestai.