Gyda’i 109 o gapiau dros ei wlad, Chris o Gasnewydd yw arwr tawel carfan tîm pêl-droed Cymru.

Pan gollon ni i Loegr yn Ewro 2016, daeth ystum ‘codwch eich pennau, hogiau’ Chris ar derfyn y gêm honno yn enwog.

Ac roedd yr amddiffynnwr annwyl yno eto ar derfyn yr ornest yn erbyn ein cymdogion yn Qatar, yn codi calonnau’r cefnogwyr wedi’r golled 3-0.