Chwalwyd y wal dalu ar gyfer y golofn hon, i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…

Mae’n draddodiad Nadoligaidd i edrych nôl i’r gorffennol. Ers oes Charles Dickens, mae’n ŵyl sy’n llawn dyhead, am atgofion plentyndod, am ddyddiau da, am ormodedd o’r oes a fu. Mae’r ddelfryd a osodwyd yn Oes Fictoria yn ran o ffabrig y Gaeaf, nid yn unig wrth i ni weini pwdinau a danteithion o droad y ganrif (ddiwetha), ond i’w ganfod yn rhai o werthoedd y tymor hefyd.

Y teulu perffaith; y plant distaw, dedwydd gyda’u teganau; y plât mwya chwaethus a’r foment berffaith ar gyfer y cerdyn Nadolig. Na, nid albwm o luniau facebook wedi eu postio’n hwyr ar nos Nadolig, ond pnawn yn yr archif yn pori cylchrawn enwog Mrs Beeton – The Englishwoman’s Domestic Magazine, o’r 1800au. Yn ei dudalennau, ces ganfod nad oes llawer wedi newid am ein gwerthoedd pan fydd Rhagfyr ar y calendr.

Mae diwedd y flwyddyn yn gyfnod o amser sy’n edrych yn ôl, nid ar y gorffennol fel yr oedd ‘go-iawn’, ond sy’n creu darlun o fyd fel y dylai fod. “Fe ddyliai’r twrci ‘di bod yn barod awr yn ôl!” “Ddylian ni ‘di mynd i siopa’n gynt, be ddudish i?” “Ddylien ni ‘di prynu tun arall o fisgedi” “Mi ddylien ni wahodd dy frawd…”

Mae edrych yn nrych crwm y byd fel y ‘dylai’ fod yn gallu bod yn artaith, yn enwedig mewn cyfnod ble mae bywyd bob dydd yn ddrytach nag erioed, a’r rhestr o bethau sydd angen eu ‘sortio cyn ‘dolig’ yn estyn heibio hyd braich. Hawdd ymgolli yn ei ddelwedd afreal, a dechrau cymharu’n Nadolig ni, mewn ennyd uwch y stôf neu’r dagfa draffig, gyda fersiwn wedi’i hidlo drwy sgrin.

Mae antidot, yn fy marn i, i’w ganfod yng ngwaith dyn a aned yn oes aur y plwm pwdin – DW Winnicott, arbenigwr ar ddatblygiad plant a seicoleg, o bob dim. Ei ddamcaniaeth oedd ein bod ni’n ‘ddigon da’, fel yr ydym ni – fel rhieni, fel aelodau o’n teulu a’n cymuned – o ystyried pa adnoddau sydd wrth law, pa bwysau sydd arnom a’n cymeriad. Sbrowts ‘di berwi drosodd? Digon da. Wedi rhedeg allan o amynedd a mynd i eistedd yn y car yn y multi-storey yn byta Festive Bake o Greggs? Digon da. Wedi methu cael gafael ar degan drudfawr y tymor? Mae unrhyw anrheg yn fwy na digon da. Yncl Huw ‘di stormio allan adeg pwdin? Digon da am heddiw – o leia gath o damaid o dwrci.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn hir o addasu, o gostau uchel ac o newid mawr ar lefel fyd-eang. Gobeithio wir y cewn ni gyfle eleni i gael seibiant – nid jyst o’r meri-go-rownd gwleidyddol ond o’r dyheu amhosib sy’n ymweld â ni bob ‘Dolig – nid ysbryd y Nadolig a Fu, ond Ysbryd Nadolig Fel Ddylie Hi Fod. Efallai fod edrych ymlaen at Nadolig hynod o lawen yn teimlo’n amhosib eleni, bod blinder, galar neu ddiffyg adnoddau’n pwyso’n drwm: fy ngobaith i yw y cewch chi gyd rhyw foment fach ddistaw o fodlondeb, o gyfforddusrwydd neu agosatrwydd. Yn ysbryd DW Winnicott, dyma ddymuno Nadolig digon da i chi gyd.