Weithiau mae’n anodd – os nad yn amhosibl – i beidio â gadael i’r tonnau o fudreddi sy’n sgubo dros ein byd eich goddiweddyd.

Mewn rhyw drobwll o iselder felly yr ydw i ar hyn o bryd mae’n rhaid i fi gyfaddef.

A dyw hi ddim yn hawdd ffugio gwên ar wyneb na ffugio rhyw ysbryd Nadoligaidd llawen.

Darllen am fachgen deng mlwydd oed yn America yn saethu ei fam i farwolaeth am iddi wrthod prynu rhyw degan technegol iddo.