Rwyf yn eistedd yng ngorsaf Garde Du Nort yn aros am fy nhrên nôl i Lundain ar ôl penwythnos o ddianc o gyfrifoldebau ym Mharis.

Dydw i ddim wedi cael gwyliau i ffwrdd o’r gwaith trwy’r flwyddyn a heb fod dramor am wyliau ers 2019.

Penderfynais ddilyn y criw’r oeddwn i newydd weithio gydag ar gyfer y sioe MotherSh*t – yr un wnes i sôn ambwyti yn y golofn ddiwethaf.