Rydw i wedi dychwelyd o Qatar ers wythnos ac fel pawb arall rydw i wedi bod yn gofyn y cwestiwn – beth oedd ar goll gyda Chymru?

Mae rhai ohonom ni wedi cael ein cyhuddo o fod yn rhy fodlon gyda dim ond cyrraedd y twrnament, yn lle ennill y gemau grŵp a chael mynd drwodd i’r rown nesaf. Ac rydw i’n pledio’n euog i hynny, ond dydw i ddim yn meddwl bod yna ddiffyg ymdrech neu baratoi gan y garfan a’r tîm rheoli.