Roeddwn i’n ymwybodol o’r Cyngerdd Cymru i’r Byd a gynhaliwyd yn Efrog Newydd ychydig wythnosau yn ôl. Ond er gweld ambell glip ar y cyfryngau cymdeithasol a Heno ac ati ar y pryd, nid oeddwn yn siŵr iawn beth oedd o i fod. Marchnata Cymru yn yr Unol Daleithiau dw i’n meddwl oedd y syniad ac roedd o’n rhywbeth i’w wneud efo Cwpan y Byd hefyd, yn cael ei ddarlledu ar S4C gyntaf ar noswyl gêm Cymru yn erbyn yr UDA.