Cafodd Gwilym lond bol ar hiraeth. Byddai’n taeru nad oedd y byd yn arfer bod mor anioddefol o sentimental, ond efallai mai dyna natur ddynol – i edrych yn ôl ar gyfnod llencyndod fel oes aur, yn llawn tes a charedigrwydd, ac i waredu bob blwyddyn wedi hynny a chasau newydd-deb a modernedd.

Roedd Gwilym yn cofio fel oedd hi wedi bod go-iawn. Efallai fod yr hafau wedi bod yn boethach, ond bu’r hen aeafau yn brathu’n llawer caletach hefyd.