“Pa mor aml ydych chi wir yn cael cyfle i helpu rhywun a gwneud gwahaniaeth?”
Dyna eiriau Nathan Gardner, groesawodd deulu o Wcráin i’w gartref ddiwedd mis Tachwedd.
Cafodd y Swyddog Busnes o Ddinas Powys, ynghyd â’i wraig a’i ddwy ferch, eu paru â Nadiia a’i merch ar ôl ymweliad cartref llwyddiannus gan Gyngor Bro Morgannwg.
Bu’n rhaid i’r ddwy ffoi o Wcráin ar ôl i’r rhyfel ddechrau ym mis Chwefror.
Wrth weld erchyllterau gweithredoedd Vladimir Putin, fe wnaeth Nathan a’i deulu drafod y syniad o ddod yn lletywyr a phleidleisio’n unfrydol i agor eu drws i bobl sydd wedi eu dadleoli o Wcráin.
Dyma benderfyniad mae’n falch iawn ohono.
“Pam na fyddech chi’n ceisio helpu? Mae eu bywydau wedi eu troi wyneb i waered heb fai o gwbl arnyn nhw,” meddai.
“Mae’n benderfyniad mawr ac yn un mae angen i chi ei ystyried o ddifrif gyda’ch teulu.
“Er y gallwn ni gwyno am yr hyn sy’n digwydd yn ein bywydau o ddydd i ddydd, mae’r problemau hynny yn ddibwys o’i gymharu â’r hyn mae pobol Wcráin wedi ei wynebu.”
Nadiia
Yn benderfynol o sicrhau y gallai Nadiia a’i merch gyrraedd mewn pryd ar gyfer yr Adfent, dechreuodd Nathan wneud rhai newidiadau i gartref y teulu – gan gynnwys symud ei ddwy ferch i’r un ystafell wely er mwyn gwneud lle.
“Ar ôl y flwyddyn ddiwethaf, roeddwn yn awyddus i ferch Nadiia gael y cyfle i brofi’r cyfnod cyn y Nadolig fel y dylai plentyn 11 oed,” meddai.
“Yn yr oedran hwnnw, ddylen nhw ddim gallu dweud y gwahaniaeth rhwng sut mae bom yn swnio a sut mae rownd tanc yn swnio. Dydy o ddim yn iawn.
“Mae ei gweld hi’n trawsnewid yn blentyn heb boen o fath yn y byd eto yn amhrisiadwy.”
Mae Nadiia bellach yn gweithio mewn bwyty yng Nghaerdydd, tra bod ei merch yn gorffen ei diwrnod ysgol ym Mro Morgannwg drwy wneud ei gwaith ysgol Wcreinaidd hefyd i sicrhau nad yw hi’n mynd ar ei hôl hi gyda’r cwricwlwm.
Nadolig Cymreig – a Blwyddyn Newydd Wcreinaidd
Nawr mae’r aelwyd gyfan yn edrych ymlaen at y Nadolig.
Bydd teulu Nathan yn rhoi profiad o Nadolig Cymreig i’w gwesteion yn gyntaf, cyn i’r teulu o Wcráin roi blas o Flwyddyn Newydd draddodiadol Wcreinaidd iddynt.
Bydd teuluoedd eraill o Wcráin yn ymuno â nhw – sy’n byw yn lleol – i aros dros nos. Fe wnaeth un ohonynt ffoi o Wcráin gyda Nadiia drwy Estonia.
“Byddwn yn bwyta hwyaden, sy’n draddodiadol ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn yn Wcráin, tua 11pm, cyn croesawu 2023 yng nghwmni ffrindiau a theulu – pan fyddwn ni’n trafod y flwyddyn ddiwethaf a’n gobeithion am y deuddeg mis sydd i ddod,” meddai Nathan.
“Rwy’n gwybod ym mêr fy esgyrn bydd ein ffrindiau o Wcráin yn gobeithio y gallan nhw dreulio’r Nadolig yn eu cartrefi eu hunain y flwyddyn nesaf.
“Nes byddan nhw’n gallu gwneud hynny, gallwn ni eu cadw nhw’n ddiogel.”
‘Help a charedigrwydd’
“Hoffwn ddiolch i Nathan a’i deulu, a phawb ledled Cymru sydd wedi bod yn lletya pobl o Wcráin,” meddai Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.
“Mae eich help a’ch caredigrwydd wedi bod yn rhan amhrisiadwy o’n dull i greu Cenedl Noddfa.
“Mae nifer o bobol Wcráin wedi dweud wrthym ni pa mor ddiolchgar ydyn nhw am y gefnogaeth mae Cymru wedi ei chynnig ac rwy’n gobeithio y bydd straeon fel un Nathan yn annog mwy o bobol i agor eu cartrefi i fwy o Wcreiniaid yn eu hawr o angen.”
Gallwch helpu pobol sy’n dod i Gymru o Wcráin drwy gynnig lle iddyn nhw aros yn eich cartref neu mewn eiddo rydych chi’n berchen arno drwy fynd i llyw.cymru/cynnig-cartref.
- Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Housing Justice Cymru i ddarparu hyfforddiant, cyngor a chefnogaeth i letywyr yng Nghymru. Gallwch anfon neges e-bost atyn nhw drwy UkraineHostSupport@housingjustice.org.uk neu ffonio 01654 550 550, i gael cyngor a chefnogaeth ynghylch ymholiadau am eich profiad lletya.