Dr Richard Irvine yw Prif Swyddog Milfeddygol newydd Cymru, ac mae’n dweud ei fod yn “edrych ymlaen at gefnogi ffermio” yn rhinwedd ei swydd newydd.

Ar hyn o bryd, mae’n Ddirprwy Brif Swyddog Milfeddygol y Deyrnas Unedig ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Polisi Iechyd Anifeiliaid Byd-eang yn Defra.

Bydd yn ymuno â Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth.

Mae’n filfeddyg profiadol iawn a chanddo gefndir mewn iechyd a lles anifeiliaid, polisi masnach, yn ogystal â gwyddoniaeth a meddygaeth filfeddygol y wladwriaeth.

Mae wedi cael gwahanol rolau blaenllaw mewn rhaglenni gwyliadwriaeth iechyd anifeiliaid a gwyddoniaeth yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yn ogystal â threulio amser mewn practis milfeddygol cymysg clinigol yn ne Cymru.

‘Gwirioneddol falch’

“Rwy’n wirioneddol falch fy mod wedi cael fy mhenodi’n Brif Swyddog Milfeddygol Cymru,” meddai Dr Richard Irvine.

“Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi ffermio yng Nghymru yn y rôl hon, drwy arwain y gwaith ar y cyd i ddiogelu iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio fel rhan o’r tîm yn Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r holl bartneriaid ac asiantaethau sy’n gweithio’n ddiflino i fynd i’r afael â’r heriau iechyd a lles anifeiliaid sy’n ein hwynebu.

“Mae’n gyfle go iawn i wneud gwahaniaeth ac adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni.

“Mae’n bleser gen i allu dod nôl i Gymru, ar ôl treulio peth amser yma yn gweithio fel milfeddyg.

“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i chwarae fy rhan ac yn edrych ymlaen at ddechrau fy rôl newydd.”

Dileu’r diciâu a ffliw adar

“Llongyfarchiadau mawr i Richard ar gael ei benodi yn Brif Swyddog Milfeddygol Cymru,” meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru.

“Mae’n ymuno â ni wrth inni ymdrechu i gyflawni ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer dileu TB buchol yng Nghymru, ac rydyn ni’n wynebu’r ymlediad mwyaf o Ffliw Adar a welodd y Deyrnas Unedig erioed.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef i gyflawni ein nodau uchelgeisiol o ran Iechyd a Lles Anifeiliaid ac ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu.”