Mae merch Aled Glynne Davies, sydd ar goll ers Nos Calan, wedi gofyn i bobol edrych mewn adeiladau, eglwysi ac adeiladau tu allan amdano.

Mae Gwenllian Glyn wedi cyhoeddi gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch sut yr aeth ei thad ar goll, ac yn gofyn i bobol edrych ar eu camerâu cylch-cyfyng.

Daeth pobol ynghyd yng Ngerddi Plasturton ym Mhontcanna i chwilio amdano dros y penwythnos.

“Gwerth sôn fod gan Dad asgwrn cefn crwm, felly mae ganddo posture crwm ac yn siffrwd wrth gerdded,” meddai Gwenllian Glyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae’n tueddu i gerdded yn araf.

“Gallai hyn fod yn ddefnyddiol wrth edrych ar CCTV.

“Mae’r Heddlu’n gofyn i ni plîs rannu unrhyw wybodaeth/lluniau o Dad.

“Does neb wedi ei weld ers noswyl Calan (31/12/22).

“Mi adawodd o dŷ bwyta Uisce efo Mam am 22.36 a cherdded nôl i’w tŷ ym Mhontcanna.

“Ar ôl cyrraedd adre, mi aeth o am dro ar ei ben ei hun a does neb wedi ei weld ers hynny.

“PLÎS, os oes unrhyw CCTVs/ring doorbells yn enwedig yn ardal Pontcanna, checiwch nhw neu gadewch i ni wybod plîs.

“Oedd Dad yn gwisgo cot werdd tywyll (yn y llun) a het werdd tywyll (tebyg i’r un yn y llun).”

Apêl yr heddlu

Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi apêl hefyd, wrth i’r chwilio am Aled Glynne Davies barhau.

Does neb wedi gweld y gŵr 65 oed ers iddo adael ei gartref i fynd am dro ar ôl bod allan am bryd o fwyd yn gynharach yn y nos.

Yn ôl ei deulu, mae’n fregus ac wedi mynd allan heb dabledi angenrheidiol.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw.

Apêl i ddod o hyd i Aled Glynne Davies

Does neb wedi ei weld ers iddo adael ei gartref nos Sadwrn (Rhagfyr 31)