Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar draws rhan helaeth o Gymru heno (nos Fawrth, Ionawr 3), allai achosi llifogydd ac amodau gyrru gwael.

Fe allai hyd at 15-25mm o law syrthio rhwng 7yh a 3yb fore Mercher (Ionawr 4), tra y gallai hyd at 50mm syrthio ar dir uchel.

Ymhlith y siroedd sy’n debygol o gael eu heffeithio, mae:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Sir Gaerfyrddin
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys,
  • Rhondda Cynon Taf
  • Torfaen