Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio Sbaen eu bod nhw mewn perygl o dorri hawliau dynol wrth ddefnyddio meddalwedd ysbïo i dargedu ymgyrchwyr tros annibyniaeth i Gatalwnia.
Daw’r pryderon am y defnydd o becynnau Pegasus a Candiru mewn llythyr fis Hydref y llynedd gan Fernand de Varennes, sy’n arbenigo mewn materion lleiafrifol; Irene Khan, yr arbenigwr ar ryddid barn; a Clément Nyaletsossi Voule, sy’n arbenigo mewn cynulliadau heddychlon a chymdeithasau.
Mae’r llythyr yn cyfeirio at “raglen ysbïo helaeth sydd wedi’i chydlynu’n dda yn erbyn ymgyrchwyr a ffigurau cyhoeddus lleiafrifol blaenllaw o Gatalwnia”.
Mae’r llythyr yn ymateb i lythyr arall gan Marta Rovira o blaid wleidyddol Esquerra, ac mae’n galw ar Lywodraeth Sbaen i “ymchwilio, erlyn a chyflwyno sancsiynau priodol” yn erbyn unrhyw un sy’n gyfrifol am dorri unrhyw hawliau.
Yn ôl yr arbenigwyr, mae ysbïo ar raddfa helaeth yn torri’r hawl i ymgynnull yn heddychlon ac i gymryd rhan mewn cymdeithasau, yr hawl i breifatrwydd, ac yn mynd yn groes i ryddid barn.
Yn ôl Marta Rovira, mae’r Cenhedloedd Unedig wedi cadarnhau bod Llywodraeth Sbaen “wedi torri hawliau dynol”, ac mae hi a’i phlaid yn galw am “dryloywder, atebolrwydd, sicrwydd na fydd yn cael ei ailadrodd ac iawndal”.
Beth yw’r helynt ysbïo?
Cafodd dros 60 o unigolion – yn gyfreithwyr, yn wleidyddion ac yn ymgyrchwyr – sydd â chysylltiadau â’r mudiad annibyniaeth eu targedu gan feddalwedd ysbïo.
Caiff yr helynt ei alw’n ‘Catalangate’ yn aml iawn.
Daeth yr helynt i’r fei am y tro cyntaf yn dilyn adroddiadau gan Citizen Lab, ymchwilwyr ym Mhrifysgol Toronto yng Nghanada, a The New Yorker, fis Ebrill y llynedd.