Mae arweinydd iechyd yn rhybuddio bod rhaid gwneud “penderfyniadau anodd” er mwyn gwarchod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Dywed Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei chael hi’n eithriadol o anodd ymdopi ar hyn o bryd.

Mae’r corff yn cynrychioli pob sefydliad Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod y sefyllfa yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn “ddigynsail”.

Mae cyfnod y Nadolig wedi gwaethygu’r sefyllfa yng Nghymru, medd Darren Hughes.

“Yn y cyfnod cyn y Nadolig, roedd nifer o ysbytai ar draws Cymru, ar draws yr holl fyrddau iechyd fwy neu lai a oedd ar y lefel uchaf un o bwysau yn gorfod gohirio gofal a thriniaeth i bobol oedd wir ei angen,” meddai.

Ychwanega fod hyn o ganlyniad i staff ar absenoldeb salwch a gwyliau blynyddol, ond hefyd effaith Covid-19 a’r ffliw.

‘Gwasanaeth Iechyd mewn perygl’

Dywed Darren Hughes fod angen i wleidyddion ymrwymo i gynllun hirdymor i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi bod dan bwysau ac wedi ei dan-ariannu am gyfnod sylweddol, ac yn y cyfamser mae gwleidyddion ym Mae Caerdydd a San Steffan yn beio ei gilydd,” meddai.

“Yr hyn rydyn ni’n ei weld ar draws y Deyrnas Unedig, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Ngogledd Iwerddon, yng Nghymru ac yn Lloegr, yw pwysau na ellir ymdopi ag ef.

“Rydw i wedi bod yn dweud hyn ers cyhyd: mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perygl, a dyw’r llywodraeth ddim yn gwneud digon, mae angen gwneud dewisiadau anodd.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru mewn sefyllfa hynod o anodd, mae yna argyfwng, ac mae yna argyfwng o ran gofal cymdeithasol – ryda ni’n wynebu’r cyfnodau anoddaf yr ydyn ni wedi gweld.”