Dydy hi ddim yn bosib osgoi trafferthion economaidd y wlad heb fynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud â maint ac iechyd y gweithlu yng Nghymru, medd y Ceidwadwyr Cymreig.

Yn sgil hynny, maen nhw’n annog busnesau i ddarparu cefnogaeth iechyd galwedigaethol i’w staff os ydyn nhw’n gallu fforddio gwneud hynny.

Er mwyn ceisio sicrhau nad yw maint y gweithlu’n gostwng na rhestrau aros am driniaethau ar y Gwasanaeth Iechyd yn cynyddu ymhellach, mae’r blaid hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i helpu cwmnïau i dalu am y gofal i’w gweithwyr.

Byddai’r ddarpariaeth yn cynnwys meysydd fel ffisiotherapi, cefnogaeth iechyd meddwl, asesiadau risg a gweithloedd cyfforddus, meddai’r blaid.

Maint ac iechyd y gweithlu

Yn ôl amcangyfrifon, mae 630,000 o bobol dros y Deyrnas Unedig wedi gadael y gweithlu ers 2019 – nifer ohonyn nhw cyn oed ymddeol.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yn golygu bod mwy o bobol yn gadael y gweithlu am gyfnodau wrth iddyn nhw aros am driniaeth.

Mae un adroddiad gan Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth San Steffan wedi awgrymu bod cwmnïau sy’n rhoi cefnogaeth iechyd galwedigaethau dwys i’w gweithwyr yn llwyddo i gadw staff yn well gan eu bod nhw’n colli llai yn sgil problemau iechyd.

“Mae hi’n dod yn gynyddol amlwg na allwn ni osgoi’r trafferthion economaidd sy’n wynebu’r wlad heb fynd i’r afael â materion yn ymwneud â maint ac iechyd y gweithlu,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Nid yn unig y mae’n rhaid cael pobol sy’n iach yn ôl mewn gwaith, ond rhaid atal pobol rhag gadael yn y lle cyntaf, yn enwedig am resymau iechyd, un o’r rhesymau pam fod rhestrau aros hir y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru mor niweidiol.

“Mae’r argyfwng costau poen yn ergyd i unigolion sydd ar eu colled yn ariannol gan nad ydyn nhw’n gweithio ac yn gorfod aros mor hir i gael eu gweld – dros ddwy flynedd yn achos 55,000 o’r boblogaeth. Ond, mae’n effeithio’r boblogaeth gyfan gan nad oes digon o weithlu i gynnal twf a’r wladwriaeth les.

“Felly, byddwn yn annog gweinidogion Llafur ym Mae Caerdydd i weithio gyda busnesau dros Gymru i ddangos sut fedran nhw gael eu hannog a’u cefnogi i ddarparu cefnogaeth iechyd galwedigaethol fel ein bod ni’n gallu cryfhau’r economi, lleihau’r baich ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a rhoi stop ar yr argyfwng costau poen.”

Heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 3), mae Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn dweud bod rhaid gwneud “penderfyniadau anodd” er mwyn gwrachod y gwasanaeth.

Mae’r gwasanaeth yn ei chael hi’n “eithriadol o anodd” ymdopi ar hyn o bryd, meddai Darren Hughes, ac mae cyfnod y Nadolig wedi gwaethygu’r sefyllfa.

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy’n darparu gofal yn y gogledd, gyhoeddi digwyddiad critigol mewnol eto ddoe (dydd Llun, Ionawr 2) am yr eildro ers dechrau Rhagfyr, gan eu bod nhw’n cael “trafferth ymdopi â’r galw estynedig na welwyd mo’i debyg o’r blaen ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol”.

‘Parhau i fuddsoddi’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni wedi parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni fel Cymru Iach ar Waith ac Amser i Newid, i helpu cyflogwyr i greu amgylchedd cadarnhaol yn y gweithle ac i ddatblygu arfer cadarnhaol ledled Cymru.

“Bydd ein Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, oedd yn gynllun ar gyfer Gogledd Cymru a Bae Abertawe dan nawdd cyllid yr Undeb Ewropeaidd, yn cael ei ddisodli gan gynllun i Gymru gyfan, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, o fis Ebrill 2023 ymlaen.

“Bydd yn darparu cymorth therapiwtig i helpu pobl sy’n absennol o’r gwaith, neu sy’n debygol o fynd yn absennol oherwydd salwch, i aros mewn cyflogaeth neu ddychwelyd i gyflogaeth, gan ganolbwyntio ar y rheiny sydd â chyflyrau cyhyrysgerbydol ac iechyd meddwl.”

Rhybudd bod rhaid gwneud “penderfyniadau anodd” er mwyn gwarchod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perygl, a dyw’r llywodraeth ddim yn gwneud digon,” medd Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru