Mae seremonïau wedi’u cynnal yn Estonia i gofio’r rhai gollodd eu bywydau yn Rhyfel Annibyniaeth Estonia ac i nodi 103 o flynyddoedd ers y cadoediad rhwng Gweriniaeth Estonia a Rwsia Sofietaidd.
Yn y brifddinas Tallinn, cafodd blodau eu gosod ar ran y genedl gan Hanno Pevkur, Gweinidog Amddiffyn y wlad.
Cafodd 6,000 o bobol eu lladd yn y rhyfel ac fe gymharodd y gwleidydd y sefyllfa â’r rhyfel yn Wcráin, gan ddweud ei bod hi’n bwysig dibynnu ar gynghreiriaid.
“Gadewch i ni warchod Estonia!” meddai.
Cefndir
Fe fu oddeutu 75,000 o bobol Estonia yn ymladd yn y rhyfel tros annibyniaeth, a bu farw oddeutu 6,000 ohonyn nhw.
Ond ar Ragfyr 31, 1919, fe lofnododd Estonia a Rwsia Sofietaidd gadoediad.
Roedd yn golygu y byddai’r ymladd yn dod i ben ar Ionawr 3.
Cafodd cytundeb heddwch ei lofnodi’r mis canlynol ar ôl i Estonia ennill ei hannibyniaeth.
Mae’r rhyfel yn cael ei gofio bob blwyddyn, gyda munud o dawelwch a theyrngedau ar draws y wlad.