Mae Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, wedi datgelu ei bod hi’n gwisgo siaced atal trywanu wrth iddi gwrdd ag etholwyr.

Penderfynodd wisgo’r siaced yn dilyn llofruddiaeth yr Aelod Seneddol Ceidwadol Syr David Amess.

Cafodd y gŵr oedd yn cynrychioli etholaeth Southend West ei lofruddio wrth gynnal cymhorthfa yn ei etholaeth ym mis Hydref 2021.

“Rydw i wedi bod mewn sefyllfaoedd anodd,” meddai Virginia Crosbie wrth siarad â GB News.

“Mae gen i gymorthfeydd wyneb yn wyneb lle ydw i wedi gwisgo siaced atal trywanu yn dilyn llofruddiaeth David Amess.

“Mae gen i hefyd warchodwyr. Mae’n bwysig fy mod i’n parhau i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda fy etholwyr.

“Yn anffodus, mae hyn yn un o’r pethau y mae’n rhai i mi eu gwneud er mwyn cyflawni’r swydd y cefais fy ethol i’w chyflawni.”

“Atebolrwydd”

Mae Virginia Crosbie hefyd wedi galw am fwy o “atebolrwydd” ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Rwy’n meddwl bod llawer iawn mwy y gallwn ei wneud o ran cyfryngau cymdeithasol a cham-drin,” meddai.

“Mae modd i bobol droi at y cyfryngau cymdeithasol heb gael eu dal i gyfrif.

“Dylai cyfrifon ar Twitter gael eu dilysu ac mae angen dirwyon ar Facebook.

“Mae angen dirwyon ar y cyfryngau cymdeithasol am ganiatáu cynnwys o’r fath.”

Aelod Seneddol wedi marw ar ôl cael ei drywanu sawl gwaith

Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn yr ymosodiad ar yr Aelod Seneddol Ceidwadol, David Amess

‘Pandemig o drais yn erbyn menywod yn cael ei wthio ar-lein’

Cadi Dafydd

Achosion o ferched yn cael eu targedu ar-lein yn codi “bob dydd” mewn ysgolion ac athrawon “ar dorri” o ran delio â’r mater, medd Alex Davies-Jones