Mae’r “pandemig o drais yn erbyn menywod a merched” yn cael ei wthio ar-lein, yn ôl llefarydd diogelwch ar-lein y Blaid Lafur yn San Steffan.
Yn ôl Alex Davies-Jones, Aelod Seneddol Pontypridd, mae athrawon yn delio ag achosion o fisogynistiaeth, bwlio ac aflonyddu yn erbyn merched ar-lein bob dydd.
Mae athrawon “ar dorri”, meddai, ac yn ansicr ynghylch sut i fynd i’r afael â’r mater.
Mae Alex Davies-Jones yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd ymhellach gyda’r Bil Diogelwch Ar-lein a gwneud trais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth (priority harm) ynddi.
Drwy hynny, byddai ymdrin ag unrhyw un sy’n torri amodau a thelerau’r cyfryngau cymdeithasol o ran misogynistiaeth a thrais yn erbyn menywod yn flaenoriaeth i’r cwmnïau a byddai’n rhaid iddyn nhw weithredu.
“Rydyn ni hefyd yn gwthio am god ymddygiad, sy’n rywbeth mae’r sector ac elusennau wedi bod yn ei hyrwyddo er mwyn ei gynnwys yn y Bil,” meddai Alex Davies-Jones wrth golwg360.
“Byddai’n rhaid i’r platfformau cyfryngau cymdeithasol lofnodi’r cod ymddygiad er mwyn sicrhau bod eu defnyddwyr yn cadw at y cod.”
‘Pandemig’
Er bod misogynistiaeth a thrais yn erbyn menywod yn broblem gymdeithasol ehangach, mae Alex Davies-Jones o’r farn fod y cyfryngau cymdeithasol wedi chwarae rhan wrth ymledu’r agweddau a dylanwadau ar gynulleidfa ehangach.
Enghraifft ddiweddar yw achos y dylanwadwr Andrew Tate, sydd wedi cael ei wahardd o sawl platfform ar-lein am ei sylwadau misogynistaidd, gan gynnwys dweud y dylai menywod “gymryd cyfrifoldeb” dros gael eu cam-drin yn rhywiol.
“Does ond rhaid i chi edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar gydag Andrew Tate, er enghraifft, yn lledaenu casineb misogynistig a thrio normaleiddio’r math yna o ymddygiad, a’i fod e wedyn yn treiddio i ddiwylliant bob dydd a chael ei ailadrodd ar y cyfryngau cymdeithasol gan bobol ifanc ddylanwadol,” meddai Alex Davies-Jones.
“Mae’n ofnadwy o bryderus, ac mae angen gwneud mwy dros gymdeithas er mwyn mynd i’r afael â hyn.
“Mae angen ymosod arno â grym, ac mae’n rywbeth dw i’n gweithio arno fel rhan o fy ngwaith fel y gweinidog cysgodol dros ddiogelwch ar-lein [yn San Steffan].
“Mae angen i rywbeth newid, mae hwn yn bandemig o drais yn erbyn menywod a merched, ac mae’n digwydd ar-lein ac yn cael ei wthio yno.”
Cefnogaeth i athrawon
Addysg yw’r brif ffordd o atal y math yma o ymddygiad, meddai Alex Davies-Jones, sydd wedi bod yn cydweithio â Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru, ar y mater.
“Mae fy ffrind gorau yn athrawes, ac ar ôl llofruddiaeth Sarah Everard dywedodd wrtha’ i fod pob un llyfr ar y cwricwlwm Llenyddiaeth Saesneg dros y Deyrnas Unedig yn cynnwys rhyw fath o drais yn erbyn menywod a merched. Dyna’r standard, does yna ddim sôn bod hynny’n broblem.
“A does yna ddim cefnogaeth i athrawon sy’n dysgu’r deunyddiau hyn, o gymharu â phynciau’n ymwneud â hiliaeth a ffurfiau eraill o wahaniaethu, er enghraifft.
“Yn ddiweddar, fe wnes i gynnal gweithdy yn Ysgol Uwchradd Pontypridd gyda phlatfformau cyfryngau cymdeithasol, ac o siarad gydag athrawon mae hyn yn rywbeth maen nhw’n delio gydag e bob diwrnod – sut mae merched yn cael eu targedu ar-lein, yn cael eu targedu gan fechgyn yn bennaf, ond gan ferched eraill hefyd, a sut maen nhw’n cael eu bwlio, lluniau noeth neu luniau noeth ffug yn cael eu hanfon o gwmpas, neu mae pobol yn anfon porn iddyn nhw, pobol yn anfon lluniau anweddus iddyn nhw.
“Mae’r mater yn codi bob un diwrnod, ac mae e’n codi ar y cyfryngau cymdeithasol i gyd, ac mae’r athrawon ar dorri o ran sut maen nhw’n delio â’r mater.”
Radicaleiddio
Ar y llaw arall, mae angen gwneud mwy i sicrhau nad yw bechgyn ifainc yn cael eu radicaleiddio ar-lein hefyd, eglura Alex Davies-Jones.
“Mae’r bechgyn ifanc hyn yn cael eu hanfon at wefannau tywyll a phlatfformau amgen – sydd ddim yn rhan o’r Bil Diogelwch Ar-lein ac yn rywbeth arall rydyn ni’n galw amdano,” meddai.
“Gaethon ni un disgybl, bachgen 15 oed, a’r oll wnaeth e Google-o oedd ‘Why can’t I get a girlfriend?’
“Cafodd ei wthio i’r chatrooms hyn lle mae diwylliant incel [yn amlwg], dynion eraill yn dweud ‘Dim dy fai di yw e, menywod sy’n ddrwg a menywod yw’r broblem’.
“Dyna yw gwreiddiau hyn i gyd, mae’r eithafiaeth adain dde yna’n llawn misogynistiaeth ac mae’n rhoi lle iddo ledaenu.
“Dw i wedi bod yn siarad â’r heddlu am y ffordd maen nhw’n poeni nad yw’r rhaglen Prevent, y rhaglen sy’n atal radicaliaeth a therfysgaeth, yn cyffwrdd ar fisogynistiaeth na diwylliant incel.
“Mae angen gwneud mwy o ran addysg a rhaglenni sy’n stopio’r radicaliaeth yma ymysg bechgyn ifanc.
“Mae hi’n sefyllfa bryderus iawn oherwydd mae’n agor y drws at fathau eraill o radicaleiddio ac ymddygiad adain dde eithafol.
“Rydych chi’n edrych ar bethau fel y saethu trasig, erchyll yn Keyham y llynedd, i gyd yn seiliedig ar ddiwylliant incel, [neu achos] Alex Davies, yr achos Cymreig gydag eithafiaeth adain dde. Roedd e’n wrth-Semitig, ond dechreuodd ei siwrne ar-lein drwy’r diwylliant incel, misogynistiaeth, a thrais yn erbyn menywod. Fe wnaeth y radicaleiddio esblygu o fan honno.
“Mae hyn i gyd yn amlygu’r angen i’r Bil ddod yn ôl [i San Steffan], mae hi wedi cael ei rhoi o’r neilltu, doedd hi ddim yn flaenoriaeth, ac rydyn ni’n annog pwy bynnag fydd y Prif Weinidog newydd i sicrhau bod y Bil yn parhau’n flaenoriaeth a’i bod hi’n dod yn ôl cyn gynted â phosib.
“Rydym ni am i’r Llywodraeth weithredu er mwyn cau rhai o’r bylchau hyn fel bod y Bil yn addas i’w bwrpas ac yn cyflawni’i amcanion.”