Mae darlledwr cenedlaethol Seland Newydd dan y lach am fwletin tywydd roddodd le blaenllaw i’r iaith te reo Māori.

Mae’r bwletin gan Te Rauhiringa Brown, oedd yn ddwyieithog, wedi hollti barn gwylwyr.

Tra bod nifer yn ei chanmol am dynnu sylw at yr iaith, roedd eraill yn teimlo ei bod hi’n “anghyfrifol” a “gwarthus” fod y darlledwr yn darparu ar gyfer lleiafrif bach o siaradwyr.

Yn ôl gwyliwr arall, roedden nhw “wedi cael llond bol” ar yr iaith yn cael ei “gwthio” arnyn nhw, tra bod un arall yn teimlo bod hybu’r iaith achosi “atgasedd ymhlith nifer”.

Roedd eraill yn annog y darlledwr i “ddefnyddio enwau Saesneg ar lefydd”.

Ond wrth ymateb, mae’r darlledwr yn dweud eu bod nhw’n “falch” fod y cyflwynydd wedi tynnu sylw at yr iaith, ond eu bod nhw’n “croesawu adborth gwylwyr”.

Daw’r ffrae ddiweddaraf ar ôl i gwmni siocled Whittakers wynebu beirniadaeth am newid eu pecynnau i’r iaith te reo Māori, wrth i nifer sylweddol o bobol ddweud y bydden nhw’n boicotio’r cwmni.

Ond yn ôl y cwmni, maen nhw eisiau bod yn rhan o’r ymdrechion i “adfywio’r iaith”.

Bydd wythnos ymwybyddiaeth iaith yn cael ei chynnal ledled Seland Newydd rhwng Medi 13-19.