Mae Taoiseach Iwerddon, Leo Varadkar, wedi dweud bod camgymeriadau wedi cael eu gwneud ar “bob ochr” wrth ddod i gytundeb Brexit.
Ychwanegodd y byddai’n “hyblyg a rhesymol” wrth geisio datrys problemau gyda phrotocol Gogledd Iwerddon.
Cyfaddefodd “efallai” bod y cytundeb “ychydig yn rhy llym” a bod yr Undeb Ewropeaidd yn fodlon cyfaddawdu rhyw gymaint arno.
Daeth Leo Varadkar yn Taoiseach am yr eildro fis diwethaf.
“Dw i’n siŵr ein bod ni i gyd wedi gwneud camgymeriadau wrth ymdrin â Brexit,” meddai.
“Doedd dim llawlyfr, doedd e ddim yn rhywbeth roedden ni’n disgwyl fyddai’n digwydd ac rydyn ni i gyd wedi gwneud ein gorau i ddelio ag ef.”
‘Angen hyblygrwydd’
Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at deithio i Ogledd Iwerddon yn gynnar yn y flwyddyn newydd “mewn ymdrech i ddod o hyd i ddatrysiad”.
Mae protocol Gogledd Iwerddon wedi bod yn achos tensiwn ers iddo gael ei gyflwyno ar ddechrau 2021.
Mae’r protocol yn rhan o’r cytundeb Brexit sy’n cadw Gogledd Iwerddon ynghlwm â rhai rheolau masnach yr Undeb Ewropeaidd.
Fodd bynnag, mae wedi achosi heriau gwleidyddol difrifol yn Stormont.
Mae’r DUP wedi dweud na fyddai’n dychwelyd i’r llywodraeth ddatganoledig oni bai bod newidiadau radical yn cael eu gwneud i gytundebau masnachu.
Mae’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn parhau i gynnal trafodaethau mewn ymdrech i liniaru sgil effeithiau’r cytundeb.
Dywedodd Leo Varadkar ei fod yn deall bod rhai unoliaethwyr yn teimlo bod y cytundeb yn “creu rhwystrau rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon nad oedd yn bodoli o’r blaen”.
Fodd bynnag, dywedodd fod hyn hefyd yn wir am Brexit a gafodd ei orfodi ar y wlad heb ganiatâd traws-gymunedol.
Mae angen “hyblygrwydd” gan bob ochr er mwyn datrys y sefyllfa, meddai.